Sefydlu academi gwerth £3.4m i hyfforddi radiolegwyr

  • Cyhoeddwyd
RadiolegwrFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd academi newydd gwerth £3.4m yn cael ei chreu i hyfforddi radiolegwyr a staff ym maes delweddu yng Nghymru.

Bydd yr Academi Ddelweddu Genedlaethol yn cael ei lleoli ym Mhen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr.

I ddechrau, bydd y sefydliad yn canolbwyntio ar hyfforddi radiolegwyr, ond bydd yn ymestyn i gynnwys sonograffwyr a staff eraill ym maes delweddu yn y dyfodol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, y bydd yr academi yn help i "ganiatáu inni gynyddu nifer y radiolegwyr hyfforddedig yn GIG Cymru i sicrhau gweithlu cynaliadwy".

Disgrifiad,

Bydd cael mwy o radiolegwyr yn sicrhau bod cleifion canser yn cael "diagnosis ar y pryd iawn", yn ôl Dr Sian Phillips o Ddeoniaeth Cymru

Yn yr academi, bydd radiolegwyr ymgynghorol ar draws y de yn darparu seminarau a goruchwyliaeth i bobl sy'n cael eu hyfforddi ar astudiaethau delweddu, gan gynnwys dehongli pelydr-X, sganiau CT ac MRI.

Ychwanegodd Mr Gething: "Mae radiolegwyr a'r rhai yn y gweithlu delweddu yn chwarae rôl o bwys wrth gefnogi staff meddygol a chlinigol gydag ymchwiliadau delweddu ac adroddiadau amserol, sy'n caniatáu i feddygon ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion."

'Ansawdd uchel'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Dr Phillip Wardle, y radiolegydd ymgynghorol sy'n arwain yr academi newydd, y bydd y corff "yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu delweddu a radioleg glinigol".

"Bydd yn hwyluso cynnydd sylweddol yn y capasiti ar gyfer hyfforddiant radioleg, gan ddynwared modelau academi eraill mewn rhannau eraill o'r DU", meddai.

Y bwriad yw y bydd yr academi yn dal i ddatblygu, gan ddod yn ganolfan arloesi ac ymchwil, ac y bydd ganddi ran yn hyfforddiant gweithlu delweddu ehangach y Gwasanaeth Iechyd.

Mae disgwyl i'r academi ddechrau gweithio erbyn canol 2018.