'Siom' na fydd Y Gorlan ym Maes B yr Eisteddfod eleni

  • Cyhoeddwyd
Y GorlanFfynhonnell y llun, Arfon Jones

Mae aelodau o bwyllgor Y Gorlan yn dweud eu bod yn siomedig wedi iddynt gael gwybod gan yr Eisteddfod Genedlaethol na fyddan nhw'n rhan o drefniadau Maes B eleni.

Mewn llythyr agored at deulu a chyfeillion Y Gorlan fe ddywedon nhw fod "pwyllgor trefnu yr Eisteddfod wedi dod i'r penderfyniad nad ydynt yn dymuno gwasanaeth Y Gorlan eleni", a hynny wrth i'r maes ieuenctid esblygu.

Roedd y gorlan goffi yn lleoliad a oedd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr Cristnogol ac roeddent yn darparu gwasanaeth arlwyo a bugeilio i wersyllwyr.

Dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi penderfynu "cydweithio gyda grŵp sy'n lleol i ardal yr Eisteddfod" er mwyn darparu'r gwasanaeth eleni.

'Ethos o wasanaethu'

Dechreuodd Y Gorlan yn Eisteddfod Llambed yn 1984, ac er i'r gwasanaeth stopio am rai blynyddoedd mae'r Gorlan wedi bod yn gwasanaethu'r ŵyl yn ddi-dor ers dechrau'r 90au.

Dywedodd aelodau'r pwyllgor eu bod wedi cael gwybod gan yr Eisteddfod y byddai'r "arlwyo a'r gofal bugeiliol/ymarferol yn cael ei gyflawni gan gwmnïau proffesiynol" eleni.

Un sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r Gorlan ers y dechrau yw Arfon Jones, a'r llynedd fe oedd y caplan.

"Siom dros y rhai sy'n mynd i Maes B sy' gen i. Roedd Y Gorlan ar agor bedair awr ar hugain y dydd ac yn cynnig bwyd am bris rhad iawn," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

Y GorlanFfynhonnell y llun, Arfon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal a'u bwydo roedd Y Gorlan hefyd yn gofalu am wersyllwyr wedi meddwi, meddai Arfon Jones

"Ro'n ni'n neud 'chydig o elw ac roedd hwnnw yn mynd at amrywiol elusennau. Ro'dd pawb yn gweithio am ddim ar y stondin.

"Ond yn fwy na chynnig bwyd am bris rhesymol, mae'r Gorlan wedi bod yn cynnig gofal bugeiliol. Y bwriad ar hyd yr amser oedd hybu'r ysbryd o ofalu am bobl.

"Doedd hi erioed yn fwriad i efengylu'n uniongyrchol er bod gennym rai pamffledi - ond yn hytrach creu'r ethos o fod eisiau gwasanaethu a helpu.

"Mi fydd hi'n biti cael gwared o'r elfen honno. Roedd Y Gorlan yn cynnig cyfle i bobl ifanc holi pobl yr un oedran â nhw am bynciau oedd yn eu poeni.

"Rown hefyd yn gallu helpu pobl oedd yn sâl neu wedi meddwi - rhoi cysgod i bobl bedair awr ar hugain y dydd."

'Dymuno'n dda'

Mae llythyr pwyllgor Y Gorlan yn ategu bod yr aelodau "yn awyddus i ganmol yr Eisteddfod ar gymryd camau i ddiogelu mynychwyr maes ... ond yn siomedig iawn nad yw'r Eisteddfod am weld Y Gorlan fel rhan o dîm Maes B wedi degawdau o wasanaeth gwrifoddol o'r safon uchaf".

Ychwanegodd y byddan nhw'n parhau i wersylla yn Eisteddfod Môn ac yn helpu cenhadaeth Mudiad Efengylaidd Cymru ac Eglwys Cytûn ar faes yr Eisteddfod.

CorlanFfynhonnell y llun, Arfon Jones

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Roedd edrych ar y gwasanaeth gofal a lles ym Maes B yn un o argymhellion adroddiad gwerthuso Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau y llynedd.

"Edrychwyd ar yr hyn a gynigir ar hyn o bryd a sut y gellir ei ddatblygu er lles ein mynychwyr yn y dyfodol.

"Penderfynwyd cydweithio gyda grŵp sy'n lleol i ardal yr Eisteddfod eleni, ynghyd ag atgyfnerthu rôl y gwasanaeth sy'n gallu cynnig cymorth cyntaf.

"Rydym yn gwerthfawrogi'r gwaith gwerthfawr a wnaethpwyd gan wirfoddolwyr Y Gorlan dros y blynyddoedd, ac yn dymuno'n dda iddyn nhw yn y dyfodol."