Croesawu gwelliannau rheilffordd rhwng Cymru a Lerpwl

  • Cyhoeddwyd
Halton Curve
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar ran o'r rheilffordd yn Halton, Sir Caer

Mae AC Gorllewin Clwyd wedi croesawu dechrau'r gwaith o wella'r rheilffordd rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a Lerpwl.

Mewn prosiect gwerth dros £18m, mae'r cledrau a'r signalau ar ran o'r rheilffordd yn Halton, Sir Caer, yn cael eu hadnewyddu.

Mae disgwyl i'r gwaith arwain at drenau uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl yn y diwedd.

Dywedodd Darren Millar y bydd "manteision enfawr" i'r gogledd-ddwyrain.

"Mae Lerpwl yn ganolfan fasnachol bwysig ac fe fydd gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth yn hwb enfawr i economi gogledd Cymru o ran swyddi a hyrwyddo twristiaeth", meddai.

Mae llywodraethau Cymru a'r DU, ynghŷd â chonsortiwm o awdurdodau lleol o Gymru, yn cefnogi'r datblygiad.

Y bwriad cychwynnol yw dechrau gwasanaeth bob awr rhwng Lerpwl a Chaer o fis Rhagfyr 2018, cyn ymestyn i Gymru yn ddiweddarach.