Ymchwilio i gwyn yn erbyn cyflwynydd Radio Cymru, Tommo

  • Cyhoeddwyd
tommo

Ni fydd cyflwynydd BBC Radio Cymru, Andrew Thomas, neu Tommo, yn darlledu ar yr orsaf am gyfnod yn dilyn cwyn yn ei erbyn.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod y gwyn yn deillio gan aelod o'r cyhoedd, ac yn ymwneud â sylwadau honedig gafodd eu gwneud gan y cyflwynydd mewn gŵyl gerddorol, ac nid unrhywbeth gafodd ei ddweud ar ei raglen.

Roedd Tommo yn un o'r cyflwynwyr fu'n annerch y torfeydd yn ystod Gŵyl Nôl a Mla'n yn Llangrannog ar benwythnos 7 ac 8 Gorffennaf.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Cymru: "Rydym wedi derbyn cwyn ac yn ymchwilio i'r mater.

"Tra bo'r ymchwiliad yn parhau, ni fydd Tommo yn darlledu ar BBC Radio Cymru."

Nid oedd Tommo am wneud sylw ar y mater.