Pwy oedd Meddygon Esgyrn Môn?
- Cyhoeddwyd
Un noson stormus yn y ddeunawfed ganrif cafodd dau fachgen bach eu golchi ar draeth yn Ynys Môn. Aeth un ohonyn nhw - a'i ddisgynyddion - ymlaen i wneud argraff mawr ar y byd meddygol. Ond mae eu cefndir yn dal yn ddirgelwch hyd heddiw.
Bydd hanes y teulu unigryw yma yn cael ei drafod mewn darlith arbennig ar faes yr Eisteddfod wythnos yma. Felly, pwy oedd meddygon esgyrn Môn?
Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda Dyfrig ab Ifor, Arwyddfardd yr Orsedd, sydd hefyd yn un o ddisgynyddion y meddyg esgyrn.
Dawn gynhenid
Yn ystod yr 1730au daeth dyn lleol o'r enw Danny Luckie o hyd i ŵr a dau fachgen wedi eu golchi i'r lan ar Ynys Môn yn dilyn llongddrylliad oddi ar Ynys y Fydlyn. Roedd y gŵr yn siarad iaith estron a'r plant yn rhy ifanc i fedru cyfathrebu.
Bu farw'r gŵr a nid oes sôn byth wedyn am un o'r bechgyn. Mae'n bosib ei fod yntau wedi marw hefyd oherwydd effaith y llongddrylliad.
Ond mae hanes y bachgen bach arall wedi tyfu'n rhan o chwedloniaeth yr ynys. Fe gafodd ei enwi yn Evan Thomas ac aeth i fyw i fferm Maes y Merddyn Brych, ger Llanfair yng Nghornwy.
Wrth iddo dyfu i fyny, dyma nhw'n darganfod fod ganddo ddawn gynhenid i osod esgyrn. Mae sôn ei fod yn datgymalu coes cyw iâr er mwyn ei gosod yn ôl at ei gilydd. Byddai hyd yn oed yn mynd gyda'r meddyg lleol i helpu i osod esgyrn cleifion.
Trosglwyddodd y ddawn i'w fab, Richard Evans (neu Richard ab Evan) ac ymlaen i'w ŵyr, Evan Thomas (yr ail) a ddaeth yn ddyn amlwg iawn fel gosodwr esgyrn yn ardal Lerpwl. Fodd bynnag, nid oedd yn feddyg swyddogol a thra bod y meddygon go iawn i gyd o'i blaid i gychwyn, dyma nhw'n troi yn ei erbyn ar ôl sylweddoli mai fo oedd yn bachu'r cleientiaid. Ceisiodd sawl un bardduo ei enw drwy ddwyn achos llys yn ei erbyn - ond enillodd pob achos.
I osgoi'r fath drafferth eto, anfonodd Evan Thomas ei bum mab i astudio meddygaeth yn y brifysgol. Aeth yr hynaf, Huw Owen Thomas, ymlaen i ddyfeisio'r 'Thomas splint', a chaiff ei adnabod fel tad llawdriniaeth orthopedig fodern. Ei nai, Syr Robert Jones, a fu'n gweithio gydag o am gyfnod, sefydlodd Ysbyty Orthopedig Gobowen. Fo oedd y dyn cyntaf yn y byd i ddefnyddio Pelydr X i wneud diagnosis o dorasgwrn. Fo hefyd aeth â'r Thomas splint allan i feysydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dirgelwch
Erbyn heddiw mae wyth cenhedlaeth o ddisgynyddion Evan Thomas wedi bod yn osodwyr esgyn a llawer o'r teulu ym mhob cenhedlaeth gyda'r gallu i osod esgyrn.
Ond mae'r dirgelwch am dras a chefndir y teulu yn parhau.
Y farn yn wreiddiol oedd mae naill ai dianc o'r gwrthryfel Jacobeaidd yn yr Alban oedden nhw neu mae o Sbaen oedden nhw'n hanu oherwydd fod bobl yng ngogledd Sbaen o'r enw 'algebristas' oedd yn cael eu hadnabod fel 'cwacs' orthopedig.
Yna, yn 2012, yn dilyn dadansoddiad DNA o un o ddisgynyddion Evan Thomas, Thomas Dafydd Evans, dyma gwestiynu'r rhagdybiaeth fod y bechgyn wedi dod o Sbaen. Ymchwiliwyd i'r posibilrwydd bod gwreiddiau'r teulu yn ardal Mynyddoedd y Cawcws.
Ond, er nad yw'n bosib cadarnhau tarddiad gwreiddiol y teulu, mae un peth yn sicr - mae ganddyn nhw ddawn go arbennig.
Gallwch ddysgu mwy am feddygon esgyrn Môn yn Narlith Cymdeithas Bob Owen gan John Richard Williams ym Mhabell Cymdeithasau 2 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 8 Awst, 12.30pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011