Deddf taro plant 'i droi rhieni cyffredin yn droseddwyr'
- Cyhoeddwyd
Byddai miloedd o rieni yn cael eu hystyried yn droseddwyr petai gwaharddiad ar daro plant yn cael ei basio, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau cael gwared ar yr amddiffyniad cyfreithiol i rieni sydd yn defnyddio cosbau corfforol i ddisgyblu plant.
Ond mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai peidio â chaniatáu cerydd rhesymol oddi yno yn golygu "rhieni cyffredin yn wynebu carchar".
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar y cynlluniau yn y 12 mis nesaf.
'Pelten ysgafn'
Nawr mae grŵp o rieni o'r enw Byddwch yn Rhesymol Cymru wedi dechrau deiseb yn galw ar y llywodraeth i roi'r gorau i'w cynlluniau.
Dywedodd Lowri Turner, mam i un plentyn, fod gwahaniaeth rhwng taro a cham-drin, ac y byddai'r newid yn golygu fod rhieni cyffredin yn cael eu hystyried yn "ddim gwell na chythraul treisgar neu rywun oedd yn cam-drin plant".
"Maen nhw'n ceisio dweud fod pelten ysgafn ar gefn y coes gan fam gariadus yr un peth a rhoi cweir i'ch plant," meddai.
"Oes 'na unrhyw un sy'n meddwl nad yw'r math yna o gam-drin eisoes yn anghyfreithlon?
"Os nad yw'r llywodraeth yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng y ddau beth, ddylen nhw ddim fod yn pasio cyfreithiau yn ei gylch."
Byddai'r newid yn y ddeddf yn golygu, petai honiad yn cael ei wneud fod oedolyn wedi taro plentyn, na fydden nhw'n gallu defnyddio'r amddiffyniad nad oedden nhw wedi sylwi pa mor galed wnaethon nhw daro'r plentyn.
Ond mae Andy James, cadeirydd grŵp 'Sdim Curo Plant, sy'n ymgyrchu o blaid y gwaharddiad taro, wedi eu cyhuddo o "godi bwganod".
Dywedodd fod y gyfraith wedi newid mewn 52 o wledydd er mwyn rhoi'r un amddiffyniad i blant ac oedolion rhag cael eu taro, ac nad oedd tystiolaeth y byddai rhieni yn wynebu cael eu troseddu.
"Does gan neb yr hawl i daro person arall, i'w cosbi neu eu rheoli. Dylai'r gyfraith amddiffyn plant yn yr un ffordd ag oedolion," meddai.
Fe wnaeth arolwg o 1,000 o bobl gan ComRes ar ran Byddwch yn Rhesymol Cymru ddangos bod 85% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu taro pan yn blant, a bod bron i 70% yn cytuno fod angen taro plentyn drwg ar adegau.
'Consensws trawsbleidiol'
Ym mis Mawrth 2015 fe bleidleisiodd ACau yn erbyn ymgais i wahardd taro plant gafodd ei gyflwyno yn y Mesur Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Ond roedd maniffesto'r Blaid Lafur cyn etholiad y Cynulliad y llynedd yn cynnwys addewid i "chwilio am gonsensws trawsbleidiol i ddod a'r amddiffyniad o gerydd rhesymol i ben".
Mae Plaid Cymru hefyd wedi awgrymu y gallan nhw ddod i gytundeb â Llafur ar y mater, ac mae cyn-Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan a Chomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland hefyd wedi cefnogi gwaharddiad.
Bydd pwerau ar ddisgyblu gan rieni yn cael eu datganoli i'r Cynulliad fel rhan o Fesur Cymru, a bydd hynny wedyn yn caniatáu i ACau newid y ddeddf.