Yr awdur a'r newyddiadurwr Jan Morris wedi marw yn 94 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r newyddiadurwr a'r awdur Jan Morris wedi marw yn 94 oed.
Cafodd ei marwolaeth ei gadarnhau gan ei mab, y bardd Twm Morys, ddydd Gwener.
"Y bore 'ma am 11:40 yn Ysbyty Bryn Beryl yn Llŷn, cychwynnodd Jan Morris, yr awdur a'r teithiwr, ar ei siwrnai fwyaf!" meddai.
"Mae hi'n gadael ar y lan yma ei chymar oes, Elizabeth."
Cafodd ei geni yn James Morris - i dad o Gymru ac i fam o Loegr - yn Clevedon, Gwlad yr Haf, ond yn fwy diweddar bu'n byw yn Llanystumdwy, Gwynedd.
Daeth yn enwog ar ôl ysgrifennu am daith lwyddiannus Syr Edmund Hillary a'r sherpa Tenzing Norgay i goncro mynydd Everest yn 1953.
Bu hefyd yn gohebu ar Argyfwng Suez yn 1956 gan ddatgelu i'r byd bod Ffrainc wedi bod yn cynllwynio ag Israel i ymosod ar Yr Aifft.
Fe wnaeth ei gwaith gyfrannu at ymddiswyddiad Prif Weinidog Prydain, Anthony Eden, rhai misoedd wedyn ac arwain at dynnu milwyr Prydain yn ôl o'r Aifft.
Priododd James ei wraig Elizabeth Tuckniss yn 1949 ac mae ganddyn nhw dri mab ac un ferch - Twm Morys, Henry Morris, Mark Morris a Suki Morys.
Yn 1972 teithiodd James i Casablanca ym Moroco i gael llawdriniaeth i newid ei ryw.
Roedd ei llyfr Conundrum yn 1974, y cyntaf i'w gyhoeddi o dan yr enw Jan Morris, yn trafod ei hunaniaeth newydd ac yn esbonio nad oedd rhyw yn effeithio ar y grefft o ysgrifennu.
Fe wnaeth Jan ac Elizabeth barhau i gydfyw yn hapus wedi'r llawdriniaeth er iddyn nhw orfod ysgaru am nad oedd modd i ddwy fenyw fod yn briod i'w gilydd ar y pryd.
Yn 2008, bron i 60 mlynedd ers priodi am y tro cyntaf, cyhoeddodd Jan ac Elizabeth y byddan nhw'n ail-briodi mewn partneriaeth sifil gan fod y gyfraith bellach yn caniatáu hynny.
Tuag at ddiwedd ei hoes, bu'n sôn am ei phryder o gael ei diffinio am ei rhywioldeb yn hytrach nag am ei gwaith.
Mewn erthygl onest a ffraeth i BBC Cymru Fyw ym mis Mawrth eleni, dywedodd Twm Morys bod cyfraniad Jan Morris "i'r byd ers 1972 yn aruthrol... a does dim ffan mwy na mi".
Ond fe dalodd deyrnged hefyd i'w phartner, Elizabeth, "fy mam i", gan ddweud mai "go brin y byddai'r pentwr llyfrau mae [Jan] wedi eu sgrifennu yn ystod ei gyrfa hir wedi digwydd oni bai am ei chymar".
Anrhydeddau
Dechreuodd Jan Morris deithio wrth wasanaethu yn y fyddin yn 17 oed, ac yn 23 aeth i astudio Saesneg yn Rhydychen cyn gweithio fel gohebydd tramor i bapurau fel The Times ac yn ddiweddarach The Guardian yn y Dwyrain Canol.
Er iddi ysgrifennu sawl llyfr teithio, nid oedd am gael ei diffinio fel gohebydd teithio: "I'm a writer who travels, not a travel writer."
Ei chasgliad pwysicaf yn ei barn hi ydy'r drioleg 'Pax Britannica' sy'n trafod cwymp yr Ymerodraeth Brydeinig.
Ond am ei gwaith yn trafod y dinasoedd a'r gwledydd lle bu'n teithio - gan gynnwys Hong Kong, Efrog Newydd a Fenis - y mae hi fwyaf enwog hyd heddiw.
Cyrhaeddodd restr fer y Wobr Booker ac enillodd Wobr Deithio Thomas Cook am ei chyfraniad arbennig i ysgrifennu teithiol.
Yn 2005 enillodd Wobr y 'Golden Pen' i nodi ei chyfraniad arbennig i lenyddiaeth.
Yn 2008 roedd yn 15fed ar restr The Times o'r ysgrifenwyr gorau ym Mhrydain ers yr Ail Ryfel Byd.
Derbyniodd ei CBE "o ran cwrteisi" yn 1999, er gwaethaf ei daliadau cenedlaetholgar a gweriniaethol.
Bu'n byw am nifer o flynyddoedd yn Nhrefan Morys, hen stablau wedi eu haddasu ar dir hen gartref ei theulu yn Llanystumdwy.
Roedd Jan ac Elizabeth wedi cynllunio i gael eu claddu ar ynys fechan ar Afon Dwyfor tu ôl i'w cartref, gyda geiriad ar y garreg fedd yn darllen: 'Dyma ddau ffrind ar ddiwedd un bywyd.'
'Person mor arbennig'
Yn rhoi teyrnged, dywedodd yr Athro Angharad Price, sydd wedi ysgrifennu am Morris, ei bod yn "ddynes eithriadol o ddawnus mewn sawl maes".
Ychwanegodd ei bod yn "berson mor arbennig, roedd natur y sylw oedd hi'n ei roi i chi yn arbennig, pan oeddech chi'n siarad efo hi oeddech chi'n teimlo bod ots ganddi, yn y ffordd roedd hi'n gwrando ac yn talu sylw".
"Roedd hi'n andros o gymeriad, 'di cyfarfod pob math o bobl, o Che Guevara i Kim Philby, i'r Brenin Hussein o wlad Yr Iorddonen i Cary Grant.
"Pob math o straeon anhygoel ganddi hi, ac un o'r bobl mwya' anhygoel i mi gael y fraint o'u cyfarfod nhw erioed."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd29 Mai 2013