Carcharu Stephen Hough am ladd merch ysgol yn 1976

  • Cyhoeddwyd
Janet ComminsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Janet Commins ei ddarganfod pedwar diwrnod wedi iddi fynd ar goll

Mae dyn wnaeth dreisio a lladd merch ysgol 15 oed yn Y Fflint yn 1976 wedi ei ddedfrydu i gyfanswm o 15 mlynedd o garchar.

Cafodd corff Janet Commins ei ddarganfod gan blant ar gae ysgol yn y dref wedi iddi fynd ar goll ar 7 Ionawr y flwyddyn honno.

Cafwyd Stephen Hough, 58 oed o'r dref, yn euog yn Llys Y Goron yr Wyddgrug yr wythnos diwethaf o ddynladdiad, treisio ac ymosodiad rhyw.

Fe benderfynodd y rheithgor ei fod yn ddieuog o lofruddio.

Mewn achos gwahanol, fe blediodd Hough yn euog i ymosodiad rhyw ar ferch 15 oed arall yn 2016.

Cafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd dan glo am ladd Janet Commins a thair blynedd am yr ymosodiad y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,

16 oed oedd Stephen Hough pan ymosododd ar Janet Commins

Clywodd y llys bod Janet wedi ei lladd yn ystod ymosodiad rhyw, a bod ei chorff wedi cael ei symud yn ddiweddarach i'r man ble cafodd ei ddarganfod.

Dywedodd Mark Heywood ar ran yr erlyniad bod y ferch wedi marw o ganlyniad i gael ei thagu yn ystod yr ymosodiad rhyw.

Roedd DNA oedd yn cyd-fynd ag un Hough wedi ei ddarganfod ar samplau oedd wedi'u cadw o'r safle be gafodd y corff ei ddarganfod.

Clywodd y rheithgor fod y DNA "biliwn gwaith" yn fwy tebygol o fod yn sampl gan Hough nac unrhyw berson arall.

'Bwch dihangol'

Aeth Janet ar goll ar ôl gadael ei thŷ i fynd i nofio, ac mae dyn arall eisoes wedi treulio chwe blynedd dan glo am ei dynladdiad.

Fe wnaeth Noel Jones, oedd yn 18 oed ar y pryd, gyfaddef ei lladd a bu yn y carchar am hanner ei ddedfryd o 12 mlynedd.

Dyw erioed wedi apelio ei euogfarn, ond dywedodd wrth y rheithgor yn yr achos yma ei fod wedi cael ei wneud yn "fwch dihangol" gan yr heddlu am ei fod yn sipsi oedd prin yn gallu darllen ac ysgrifennu.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio sut y gwnaeth Heddlu'r Gogledd ddelio â'r ymchwiliad gwreiddiol.

Disgrifiad,

Ofn a phryder yn y Fflint yn 1976

Yn yr achos arall, fe blediodd Hough yn euog i ymosodiad rhyw ar ferch 15 oed ym mis Chwefror 2016.

Yn wreiddiol, roedd wedi cael ei gyhuddo o'i threisio, ond plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad hwnnw.

Fe dderbyniodd yr erlyniad y ple o euogrwydd, a gorchmynnodd y barnwr y dylid ei gael yn ddieuog o dreisio.

Clywodd y llys mai'r drosedd hon a gysylltodd ei DNA ag achos Janet Commins yn 1976.

'Ymchwiliad heriol a chymhleth'

Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies o Dîm Digwyddiadau Difrifol yr Heddlu: "Rwyf yn gobeithio bydd dedfrydu Stephen Anthony Hough, yn dod â rhywfaint o gyfiawnder i fam, teulu a ffrindiau merch ysgol 15 oed a laddwyd yn ddidrugaredd yn y Fflint 40 mlynedd yn ôl.

"Dioddefodd Janet Commins ymosodiad arswydus, estynedig oedd â rhyw yn gymhelliant iddo ym mis Ionawr 1976 ac mae'r effaith ar ei theulu, ffrindiau a'r gymuned gyfan yn anferthol. Mae Hough bellach yn y carchar ble dylai fod.

"Roedd yr ymchwiliad hwn yn heriol, cymhleth ac yn llawn emosiwn a hoffwn gydnabod yn gyhoeddus deulu a ffrindiau Janet, ynghyd a'r gymuned a'n partneriaid am eu dealltwriaeth, amynedd a chefnogaeth yn ystod yr hyn oedd yn gyfnod anodd tu hwnt mae'n rhaid.

"Roedd hwn yn achos enbyd ac ar ran Heddlu Gogledd Cymru hoffwn gynnig ein cydymdeimladau dwysaf i deulu a ffrindiau Janet ac rydym yn gobeithio bydd y ddedfryd yn dod â rhywfaint o gyfiawnder iddyn nhw a'r gymuned."