Dirwyon parcio: Rheolau Ysbyty Athrofaol 'yn bwysig'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty AthrofaolFfynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones bod 16,000 o deithiau'n mynd drwy'r ysbyty

Mae'n bwysig cadw at reolau parcio ysbyty mwyaf Cymru, medd y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Fe ddaw ei sylwadau wedi i farnwr ddyfarnu ei bod hi'n iawn i gwmni preifat Indigo gasglu taliadau gan staff Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae'r dyfarniad yn golygu bod yn rhaid i 75 o bobl dalu dirwyon gwerth hyd at filoedd o bunnoedd.

Dywedodd Mr Jones fod y rheolau wedi eu cyflwyno yn dilyn marwolaeth ar y safle.

'Deall y rhesymeg'

Dywedodd wrth aelodau'r Cynulliad: "Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig fod pobl yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r achos llys hwn.

"Y rheswm fod yr orfodaeth wedi ei chyflwyno oedd oherwydd bod marwolaeth wedi bod ar y safle, yn rhannol o ganlyniad i barcio anghyfreithlon ac yn rhannol oherwydd llif y traffig oedd yn teithio drwy'r safle.

"Mae tua 16,000 o deithiau'n mynd drwy'r ysbyty ar hyn o bryd, ac mae'n iawn fod yna orfodaeth i dalu dirwyon parcio anghyfreithlon ac anniogel. Mae'n rhaid i hynny ddigwydd ar safle mor brysur."

Ychwanegodd: "Mae'n anodd gwybod pam fod yr unigolion hyn wedi mynd i'r llys a pha gyngor gawson nhw.

"Rydyn ni'n gwybod fod gan un ohonyn nhw 59 tocyn parcio - ni roddwyd eglurhad o'r rheswm y tu ôl i hynny.

"Mae'n anffodus i'r unigolion hynny, rwy'n deall, ond mae'n bwysig ac yn gywir fod yna orfodaeth bwrpasol ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru o ran diogelwch ac atal parcio drwy gydol y dydd, er mwyn gwneud yn siŵr fod gan gleifion sy'n cyrraedd y safle le i barcio."

'Canolbwyntio ar gleifion'

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y llywodraeth i gysylltu gyda'r cwmni a'r ysbyty i drafod y sefyllfa.

Dywedodd AC y blaid dros ranbarth Canol De Cymru, Neil McEvoy bod angen i'r llywodraeth "gamu i'r adwy a chyfryngu rhwng staff y GIG ac Indigo, er mwyn dod o hyd i ateb call".

"Mae llawer o ysbytai yng Nghymru yn anodd eu cyrraedd ar gludiant cyhoeddus. Mae angen car arnoch," meddai.

"Ac os nad oes digon o lefydd, gall y staff wastraffu oriau bob wythnos yn gwneud dim ond chwilio am rywle i barcio.

"Rwyf eisiau i'n nyrsys a'n meddygon ni ganolbwyntio ar helpu cleifion, nid ar fesurydd parcio'r ysbyty."