Dau dîm o Dde Affrica i ymuno â chynghrair y Pro12

  • Cyhoeddwyd
Cheetahs a Southern kingsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Cheetahs a'r Southern Kings yn ymuno ar ôl colli eu lle yng nghynghrair Super Rugby

Mae'r BBC ar ddeall bod cytundeb i ymestyn nifer y timau yng nghynghrair y Pro12, gyda dau dîm o Dde Affrica wedi'i gadarnhau ar gyfer mis Medi.

Fe fydd Y Cheetahs a'r Southern Kings yn ymuno ar ôl colli eu statws yng nghynghrair Super Rugby.

Bydd y cytundeb chwe blynedd yn gweld y gynghrair yn elwa £6m pob tymor gan Undeb Rygbi De Affrica ac o arian darlledu.

Mae pob elfen o'r cytundeb wedi'i gadarnhau, ac mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol yr wythnos nesaf unwaith y bydd hi wedi derbyn sêl bendith gyfreithiol.

Bydd gemau cyntaf y gynghrair ar ei newydd wedd yn dechrau yn wythnos gyntaf mis Medi a bydd yn cynnwys dau grŵp o saith tîm.

Trefn y cynghreiriau

Bydd pob cynghrair yn cynnwys:

  • Un tîm o'r Alban;

  • Un tîm o Dde Affrica,

  • Un tîm o'r Eidal,

  • Dau dîm o Gymru;

  • Dau dîm o Iwerddon.

Bydd y timau yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref ac yn wynebu tîm o'r gynghrair arall o leiaf unwaith, sy'n golygu bydd 19 o gemau ar gyfer pob tîm.

Fe fydd pob clwb hefyd yn chwarae gemau darbi, fydd yn golygu 21 gêm posib, mae strwythurau eraill yn cael ei hystyried hefyd.

Bydd enillwyr y ddwy gynghrair yn sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol, gyda'r timau sy'n gorffen yn ail ac yn drydydd yn chwarae gêm ail gyfle ar gyfer y ddau safle arall yn y rownd gynderfynol.

Mae'r newid yn golygu tua £500,000 o gyllid ychwanegol i'r clybiau sy'n cystadlu yn y Pro12 ar hyn o bryd.