Dyn wedi marw ar ôl i eglwys gwympo yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Debris

Mae un dyn wedi marw ar ôl i hen eglwys gwympo ger rheilffordd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod criwiau wedi darganfod y dyn yn yr adeilad yn ardal Y Sblot.

Llwyddodd dau berson arall i ddianc o'r adeilad.

Mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau bod un person wedi ei anafu.

Ffynhonnell y llun, @SPIRITismywolf

Cafodd cerbydau arbenigol eu hanfon i'r safle am tua 14:50.

Dywedodd Gareth Davies o'r gwasanaeth tân y byddai criwiau'n gweithio dros yr oriau nesaf i symud corff y dyn.

Ychwanegodd: "Fel gwasanaeth, hoffwn estyn ein cydymdeimlad i deulu'r unigolyn ar hyn o bryd."

Dywedodd cwmni Young Contractors bod eu gweithwyr wedi bod ar y safle ers rhai wythnosau, ond nad oedd staff y cwmni yno ddydd Mawrth.

Cafodd trenau rhwng Caerdydd a Chasnewydd eu hatal ar ôl y digwyddiad, ond mae rhan o'r rheilffordd bellach wedi ail-agor gyda llai o wasanaethau na'r arfer yn rhedeg.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Yn ôl adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer cyngor Caerdydd ym Mehefin 2016, cyn dechrau gwaith atgyweirio pont gerllaw fel rhan o uwchraddio rheilffyrdd, fe gafodd yr adeilad ei ddisgrifio fel "strwythur peryglus" a oedd mewn perygl o "gwympo unrhyw funud".

Fe rybuddiodd awduron yr adroddiad (Brunton Knowles) fod rhan o'r adeilad a oedd yn agos at y rheilffordd yn ansefydlog ac angen ei sefydlogi neu gall niweidio'r traciau.

Dywedodd arweinydd cyngor Caerdydd Huw Thomas y byddai'n rhaid gofyn i sut lwyddodd yr adeilad i "ddirywio cymaint", gan ychwanegu nad oedd yn deall sut oedd wedi gallu "dirywio cymaint dros y degawdau".