Cyhoeddi enw dyn fu farw wedi i eglwys ddymchwel
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Heddlu'r De enw'r dyn fu farw wedi i ran o adeilad ddymchwel yn ardal Sblot yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Roedd Jeffrey Joseph Plevey yn 55 oed ac yn dod o'r ddinas.
Roedd yn gweithio ar y safle pan ddisgynnodd rhan o'r eglwys.
Dywedodd teulu Mr Plevey eu bod wedi eu tristáu'n fawr: "Roedd Jeff yn aelod gwerthfawr o'n teulu. Roedd yn gweithio'n galed a wastad yn llawn bywyd ar unrhyw achlysur. Bydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli'n fawr."
Mae Heddlu'r De a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dechrau ymchwiliad ar y cyd i'r digwyddiad.
Cafodd dau arall eu hanafu yn y digwyddiad ger y brif reilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd tua 14:50 ddydd Mawrth.
Yn gynharach ddydd Mercher, fe gafodd corff Mr Plevey ei symud o'r hen eglwys.
Ym mis Mehefin 2016, nododd adroddiad ar gyfer Cyngor Caerdydd fod yr adeilad yn "strwythur peryglus" oedd mewn perygl o "gwympo unrhyw funud".
Rhybuddiodd awduron yr adroddiad, Brunton Knowles, fod rhan o'r adeilad, oedd yn agos at y rheilffordd, yn ansefydlog ac y gallai gwympo a difrodi'r traciau.
Cafodd yr arolwg o'r adeilad ei wneud ar gyfer Network Rail, cyn iddyn nhw gynnal gwaith i wella'r rheilffordd gerllaw.
Yn dilyn cais am sylw gan BBC Cymru, dywedodd Cyngor Caerdydd bod yr heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu y cafodd corff y dyn ei ddarganfod a'i dynnu o'r adeilad rhwng 20:00 a 21:00 nos Fawrth.
Mae Heol Y Sblot yn parhau ar gau i'r ddau gyfeiriad ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017