'Angen mwy o farnwyr o leiafrifoedd ethnig'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o brif farnwyr y wlad yn dweud eu bod yn pryderu am y broses "araf" o recriwtio barnwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus Thomas, y barnwr pwysicaf yng Nghymru a Lloegr, mai dim ond 1% o gynnydd mewn barnwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill oedd wedi bod yn y tair blynedd hyd at fis Ebrill 2017.
Mae'n mynegi pryder wrth i ystadegau amrywiaeth barnwrol newydd gael eu rhyddhau.
Dywedodd Yr Arglwydd Thomas: "Yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2014 ac 1 Ebrill 2017... cynyddodd y canran o farnwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill o 6% i 7%.
"Rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am nifer y lleiafrifoedd yma sydd wedi cael eu recriwtio."
Mae'r data hefyd yn dangos cynnydd tebyg yn nifer y barnwyr o leiafrifoedd ethnig sydd wedi eistedd mewn tribiwnlysoedd yn hytrach na llysoedd.
Mae'r data yn dangos fod y nifer wedi codi o 9% i 10%.
Mae ffigyrau wedi cael eu rhyddhau ar wefan Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.