Penodi Elan Closs Stephens yn aelod Cymru ar Fwrdd y BBC
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod Elan Closs Stephens wedi ei phenodi i gynrychioli Cymru ar Fwrdd y BBC.
Roedd Ms Stephens yn Ymddiriedolwr dros Gymru ar fwrdd llywodraethu'r BBC, cyn i strwythur llywodraethu a rheoli'r gorfforaeth gael ei newid.
Mae 14 aelod ar y bwrdd, sy'n gyfrifol am oruchwylio annibyniaeth y BBC ac yn cael eu penodi gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
Ms Stephens yw Comisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, ac mae hi hefyd yn athro Emeritws mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
'Braint'
Dywedodd Ms Stephens: "Mae'n fraint i gael fy newis fel Cyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru ar adeg mor gyffrous o ffurfio bwrdd newydd.
"Mae gen i ddau ddyhead sylfaenol. Rwyf am gyfrannu at lywodraethu cadarn o'r BBC fydd yn helpu ei wneud yn un o'r darlledwyr mwyaf parchus dros y byd.
"Rwyf hefyd wedi ymrwymo at weld Cymru'n cael ei phortreadu'n llawnach yma ac i weddill y DU."
Wrth ymateb i benodiad Ms Stephens, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn falch iawn.
"Rwy'n falch iawn bod Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi ar Fwrdd y BBC.
"Mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol, a bydd hi'n sicrhau bod llais y gynulleidfa yng Nghymru yn cael ei gynrychioli yn uchel ac yn glir o amgylch y bwrdd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2016