Cynnydd mewn troseddau treisgar yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na gynnydd mewn troseddau treisgar yng Nghymru y llynedd, yn ôl ffigyrau diweddaraf yr heddlu.
Yng Nghymru a Lloegr, roedd 'na bron i 5m o droseddau yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2017, sy'n gynnydd o 10% mewn blwyddyn.
Fe gofnododd y pedwar llu yng Nghymru gynnydd mewn troseddau treisgar yn erbyn pobl, gyda naid o 24% yn ardal Heddlu Dyfed Powys.
Roedd cynnydd o 23% yn ardal De Cymru, 20% yng Ngogledd Cymru a 15% yng Ngwent.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod newidiadau yn y dull o gasglu data yn ffactor yn y cynnydd, ond y gallai 'na fod gynnydd gwirioneddol mewn rhai mathau o droseddau.
Yn groes i ffigyrau'r heddlu, fe ddangosodd yr arolwg troseddol diweddara' yng Nghymru a Lloegr (CSEW) ostyngiad o 7% i gymharu â'r llynedd.
Lluoedd Cymru: Ystadegau trosedd 2016-17
Heddlu De Cymru:
Cynnydd o 10% mewn troseddau ar wahân i dwyll i 100,246. Y cynnydd mwyaf dros Gymru.
Mae hynny'n cyfateb i bron i hanner yr holl droseddau yng Nghymru dros yr un cyfnod.
Mewn ambell i gategori fel lladrad, roedd 'na ostyngiad.
Heddlu Gwent
Cynnydd o 9% mewn troseddau ar wahân i dwyll i 41,063.
Yr unig lu yng Nghymru i gofnodi gostyngiad mewn troseddau rhyw - 3% - ond y cynnydd mwyaf mewn dwyn o siopau - 21%.
Heddlu Dyfed Powys
Cynnydd o 8% mewn troseddau ar wahân i dwyll i 23,268.
Y cynnydd mwyaf - 26% - mewn troseddau yn ymwneud â cherbydau ac achosion o ddwyn oddi ar bersonau.
Heddlu Gogledd Cymru
Cynnydd o 6% mewn troseddau ar wahân i dwyll i 40,871.
Y cynnydd mwyaf mewn troseddau rhyw - 37%.
Y gostyngiad mwyaf mewn lladrata sydd ddim yn cynnwys achosion domestig - 11% - ac achosion o ddwyn beics - 15%.
Dywedodd Pennaeth Dadansoddiad Ystadegau Troseddol ar gyfer yr ONS, John Flatley, bod yr ystadegau yn "dangos y cynnydd blynyddol mwyaf mewn troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu ers degawd."
Ychwanegodd: "Er bod gwelliannau parhaus i arferion cofnodi, rydym yn credu bod y cynnydd gwirioneddol mewn troseddu hefyd yn ffactor mewn nifer o gategorïau."