Pryder ymysg Mwslimiaid Caerdydd am ymosodiadau asid

  • Cyhoeddwyd
Asid
Disgrifiad o’r llun,

Mae galwadau cynyddol wedi bod i dynhau'r rheolau ar brynu asid cryf

Mae BBC Cymru wedi dysgu bod pryder cynyddol ymysg Mwslimiaid yng Nghaerdydd am ymosodiadau asid gwrth-Islamaidd.

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos bod pobl wedi cael eu bygwth neu eu targedu gydag asid yng Nghymru ar 21 achlysur dros y pum mlynedd diwethaf.

Daw hynny yn dilyn cyfres o ymosodiadau asid yn Llundain, ac mae cynnydd wedi bod yn nifer yr ymosodiadau asid ar draws Lloegr ers 2012.

Mae rhai Mwslimiaid yng Nghaerdydd yn dweud eu bod wedi dechrau cario dŵr mewn potel rhag ofn eu bod yn cael eu targedu ac angen trin llosgiadau.

'Targed hawdd'

Ar hyn o bryd mae hi'n gyfreithiol prynu asid cryf, ond mae galwadau cynyddol wedi bod i dynhau'r rheolau yn dilyn yr ymosodiadau diweddar.

Dywedodd Abbie Miah o Gaerdydd ei bod yn ofni y bydd hi'n cael ei thargedu oherwydd ei chrefydd.

"Yn gwisgo'r hijab, pan 'dych chi'n fy ngweld i rydych chi'n gwybod 'mod i'n Fwslim. Rwy'n teimlo fel targed hawdd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Abbie Miah yn dweud y gallai gael ei thargedu oherwydd ei chrefydd

Dywedodd Jaffrin Khan bod y rhan fwyaf o'i theulu a'i ffrindiau wedi dechrau cario dŵr, am eu bod yn poeni y byddan nhw'n cael eu targedu am eu bod yn Fwslimiaid.

"Rydyn ni'n gweld ein hunain yn gwneud pethau fel yma, sy'n gwneud i ni sylweddoli cymaint 'dyn ni'n pryderu," meddai.

Ychwanegodd brawd Jaffrin, Nabil eu bod yn sicrhau bod ganddynt ddŵr pob tro, a'u bod yn cadw'r ffenestri i fyny pan yn teithio mewn car.

Dau lu yng Nghymru

Dau o bedwar llu heddlu Cymru sydd â chofnod o ymosodiadau asid - roedd 15 yn ardal Heddlu Gogledd Cymru a chwech yn ardal Heddlu Gwent.

Bygythiadau o ymosodiadau oedd 11 o'r 15 digwyddiad yn y gogledd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod eu hymchwil yn awgrymu nad oes unrhyw ymosodiadau asid wedi bod yn yr ardal, tra bo Dyfed Powys wedi cadarnhau nad oes ganddyn nhw gofnod o unrhyw ddigwyddiad o'r fath.

Mae ymosodiadau asid ar gynnydd ar draws y DU yn ei gyfanrwydd, gyda gwybodaeth gan 37 o'r 45 heddlu yn dangos bod nifer yr ymosodiadau wedi codi o 83 yn 2012/13 i 504 yn 2016/17.