Côr Merched Sir Gâr yn Riga
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Cymru yng ngofal Côr Merched Sir Gâr.
Ym mis Ebrill fe enillon nhw gystadleuaeth Côr Cymru a nos Sadwrn 22 Gorffennaf fe fydden nhw yn cystadlu yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision , dolen allanolyn Riga.
Cofiwch y gallwch ddilyn y gystadleuaeth mewn dwy raglen arbennig ar S4C
Côr Eurovision: Y Daith i Riga, 21 Gorffennaf, 20:25
Côr y Flwyddyn Eurovision 2017, 22 Gorffennaf,18:30
Ffion Moore a Lois Campbell, dwy o aelodau'r côr sy'n rhannu profiadau'r daith hyd yma gyda Cymru Fyw.
Dydd Llun
Lois: Heddiw oedd diwrnod cyntaf y daith fawr! Fe aethon ni ar y bws o Neuadd y Gwendraeth ym Mhontyberem i westy yn Gatwick er mwyn aros dros nos cyn teithio'n y bore bach i Riga.
Roedd y teimladau ar y bws yn rhai cymysg - llawer ohonom yn gyffrous i deithio i Latfia ac eraill yn nerfus i ganu mewn cystadleuaeth mor fawr!
Erbyn diwedd y noson gyntaf roedd pawb yn flinedig ar ôl siwrne hir ar y bws!
Dydd Mawrth
Ffion: Codi cyn cŵn Caer heddiw! Dihuno am 5:45 y bore a brecwast o fewn yr awr. I ffwrdd am y maes awyr i ddal yr awyren erbyn 10.10.
Fe fuon ni yn canu 'Rownd yr horn' ar gyfer cwmni Rondo, sy'n ffilmio'r daith i S4C - gyda gweddill y teithwyr yn mwynhau'r adloniant. Fe wnaethom ni gyrraedd Riga tua 15:00
Lois: Fe gawson ein tywys i fws er mwyn teithio i'n gwesty yng nghanol y brifddinas cyn mynd ar daith o amgylch Arena Riga lle byddwn yn canu! Ar ôl y daith cawsom swper blasus yn y gwesty cyn ymlacio am weddill y noson.
Dydd Mercher
Ffion: Heddiw fe fues i a'm grŵp gyda chriw S4C yn teithio o gwmpas y ddinas yn ffilmio ar gyfer y rhaglen deledu. Wedi hynny aethom ar daith i gyfarfod y côr merched o Latfia - un o'r corau eraill yn y gystadleuaeth i gael cymdeithasu a phicnic.
Lois: Ar ôl brecwast cawson ni'n rhannu i ddau grŵp. Ro'n i gyda'r criw aeth i ffilmio gyda S4C. Aeth y grŵp arall i ffilmio hysbyseb ar gyfer sianel deledu TV Latvia.
Fe wnaethom ni ganu gyda Côr Merched Latfia a g'neud ffrindiau newydd cyn teithio i'r gwesty am seibiant haeddiannol!
Mae hi'n swnio fel wythnos gyffrous iawn hyd yma. Pob lwc nos Sadwrn ferched!
Cofiwch ymuno gyda Trystan Ellis-Morris, Morgan Jones ac Elin Manahan Thomas ar gyfer y rownd derfynol yn fyw ar S4C am 18:30 nos Sadwrn, 22 Gorffennaf.