Cylch haearn a buddsoddiad £630,000 i gastell Y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o'r cylch haearn

Bydd cerflun o gylch haearn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £630,000 ar gyfer castell Y Fflint.

Mae'r cerflun, fyddai'n 7m (23 troedfedd) o uchder a 30m (98 troedfedd) o led, yn symbol o goron wedi rhydu.

Mae ei leoliad yn Y Fflint yn nodi trosglwyddo'r goron o un llinach ganoloesol i un arall - digwyddiad sy'n cael ei ddisgrifio yn nrama Richard II gan Shakespeare.

Castell Fflint oedd y lleoliad wrth i Richard II ildio'r goron i Harri IV, digwyddiad sy'n cael ei weld fel un gafodd gryn effaith ar hanes Prydain ac Ewrop.

Pan fydd yn agor yn 2018, bydd ymwelwyr yn gallu cerdded ar hyd y cerflun gwerth £395,000.

'Hawdd i'w adnabod'

Cafodd y cynllun buddugol ei ddewis gan banel ar ran Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, wedi i gystadleuaeth genedlaethol gael ei chynnal.

Bydd geiriau a dywediadau wedi'u dewis gan y gymuned leol yn cael eu cerfio ar y cerflun.

Dywedodd George King o gwmni'r penseiri sy'n gyfrifol am y cynllun y byddai ei "faint a'i olwg ddynamig yn golygu y bydd yn dirnod fydd yn hawdd i'w adnabod yn yr ardal".

Mae'r newidiadau eraill i'r castell yn cynnwys gosod grisiau troellog dur yn y tŵr gogledd-ddwyreiniol.

Wrth ddadorchuddio'r cynllun dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: "Mae'n bleser mawr cyhoeddi'r cynlluniau i helpu gwella profiad ymwelwyr yn y safle hwn sy'n llawn hanes, a hynny yn ystod Blwyddyn Chwedlau Cymru."