Amserlen Brexit Llywodraeth y DU yn 'chwerthinllyd'
- Cyhoeddwyd
Mae llywydd un o brif undebau amaeth Cymru wedi dweud bod amserlen Llywodraeth Prydain ar adael yr Undeb Ewropeaidd, a'r effaith fydd hynny yn ei gael ar y diwydiant, yn "chwerthinllyd".
Roedd cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, yn annerch y wasg ar faes y Sioe Frenhinol brynhawn Sul.
Dywedodd bod araith ddiweddar yr Ysgrifennydd Amaeth, Michael Gove, lle'r oedd yn awgrymu bod dyfodol polisi amaethyddiaeth yn ddewis rhwng cefnogi cynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd, yn "siomedig".
Ychwanegodd ei bod hi'n "chwerthinllyd bod y llywodraeth yn credu bod modd sicrhau ffordd allan o'r Undeb, a dyfodol llewyrchus o ganlyniad i hynny, i gyd o fewn dwy flynedd o gyhoeddi'r ddeddf".
"Mae 'na bedwar mis wedi bod ers i'r Prif Weinidog, Theresa May, lofnodi Erthygl 50 ac ychydig iawn sydd wedi digwydd ers hynny," meddai Mr Roberts.
Mae'r ddau undeb amaeth yng Nghymru wedi galw ar lywodraethau Prydain a Chymru i egluro beth yn union fydd y polisïau amaeth unwaith y bydd yn DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad â'r wasg brynhawn Sul dywedodd cadeirydd Undeb yr Amaethwyr, Stephen James, ei fod yn gobeithio y bydd polisïau yn y dyfodol yn cael eu creu a'u gweithredu gyda'r ffermwr gweithgar mewn meddwl.
"Mewn byd delfrydol, fe fydden ni'n hoffi gweld y pedair llywodraeth ym Mhrydain yn gweithio gyda'i gilydd i gytuno ar un polisi a fframwaith ariannu er mwyn sicrhau nad oes 'na rwystrau mewnol o fewn Prydain ond bod 'na ddigon o hyblygrwydd gan bob gwlad i weithredu polisi sy'n addas ar gyfer yr arferion ffermio yn y wlad honno," meddai.
Ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fore Llun bydd Ysgrifennydd Amaeth Llywodraeth Prydain, Michael Gove, ac Ysgrifennydd Materion Cefn Gwlad Cymru, Lesley Griffiths, yn cwrdd am y tro cyntaf wyneb i wyneb.
Brynhawn Sul, dywedodd Ms Griffiths y bydd hi'n pwyso ar Mr Gove i ddeall bod gan Gymru ei anghenion penodol ei hun.
"Mae 'na botensial gwirioneddol y bydd y ddeddf yma yn troi'r cloc yn ôl 20 mlynedd," meddai Ms Griffiths.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio cael gwarantau gan Lywodraeth Prydain ers i'r ddeddf i adael yr Undeb Ewropeaidd gael ei chyhoeddi, ond nid ydyn ni wedi derbyn unrhyw beth ganddyn nhw."