Teleri Fielden yn ennill Ysgoloriaeth Llyndy Isaf 2017

  • Cyhoeddwyd
teleri fielden
Disgrifiad o’r llun,

Teleri Fielden yn derbyn ffon fugail ac Ysgoloriaeth Llyndy Isaf yn y Sioe ddydd Llun

Teleri Fielden o bentref Meifod yn Sir Drefaldwyn yw enillydd Ysgoloriaeth Llyndy Isaf ar gyfer 2017.

Dyma'r pumed tro i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddewis ffermwr ifanc i weithio ar dir yn Nant Gwynant ger Beddgelert.

Cafodd Teleri ei dewis gan banel o Gymdeithas y Clybiau Ffermwyr Ifanc a'r Ymddiredolaeth Genedlaethol, ar ôl iddi amlinellu ei chynlluniau ar gyfer y fferm.

Ym mis Medi, fe fydd hi a'i chi defaid, Roy, yn symud i fwthyn ar y tir, ac yn gyfrifol am 100 o ddefaid ac ŵyn ac ychydig o warthog duon Cymreig.

Goresgyn rhwystrau

"Dwi mor gyffrous," meddai Teleri, sydd wedi dychwelyd adref ar ôl cyfnod yn gweithio ar ffermydd yn Ffrainc.

"Mae 'na gymaint o rwystrau i rywun sydd eisiau ffermio ond sydd ddim mewn sefyllfa i etifeddu fferm, fel fi, felly mae cael y cyfle yma i gymryd y cam nesa' yn y diwydiant yn wych.

"Does dim llawer o dir yn dod ar gael i'w rhentu, ac mae rhentu yn gallu bod yn eithriadol o ddrud. A does dim llawer o swyddi ymarferol ar gael allan yna chwaith."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol godi £1 miliwn i brynu fferm Llyndy Isaf

Ychwanegodd "Flynyddoedd mawr yn ôl, pan o'dd fy nhaid am gychwyn ffermio, mi gafodd e afael ar ddarn o dir ac yna gosod defaid arnyn nhw. 'Di hynny ddim yn bosib dyddie yma.

"Mae angen llawer iawn o arian hefyd ar gyfer peiriannau, stoc, yn ogystal â chostau o ddydd i ddydd."

Dywedodd Teleri ei bod hi wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan ffermwyr yn ardal Meifod dros y blynddoedd diwethaf.

"Maen nhw 'di bod mor wych 'efo fi, yn ogystal â chymorth ymarferol yn ystod y tymor wyna, ma nhw 'di fy helpu i ddewis ci, a'i hyfforddi. Mae hynna 'di bod o gymorth enfawr i mi, a dwi mor ddiolchgar am hynny."

Bydd Teleri Fielden yn etifeddu'r fferm oddi wrth James Evans o Faesyfed, a enillodd ysgoloriaeth Llyndy Isaf yn 2016.