Brexit: 'Anodd i bobl dderbyn' y model Norwyaidd
- Cyhoeddwyd
Byddai'n "anodd iawn i bobl dderbyn" petai'r DU yn aros yn y farchnad sengl wedi Brexit, yn ôl un cyn-weinidog cysgodol dros Ewrop.
Dywedodd Wayne David y byddai'r model Norwyaidd, sydd wedi cael ei gefnogi gan y prif weinidog, Carwyn Jones, yn arwain at "golled fawr mewn sofraniaeth".
Ychwanegodd Mr David, sydd yn AS dros Gaerffili, fod angen i'r blaid Lafur gael trafodaeth ar eu safbwynt ar Brexit.
Mae Llafur Cymru wedi cael cais am sylw.
'Pilsen fawr'
Dyw Norwy ddim yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae ganddyn nhw fynediad i'r farchnad sengl.
Mae'n rhaid iddyn nhw wneud cyfraniad ariannol, ac mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn y rhan fwyaf o ddeddfau'r UE heb fod â dylanwad ar sut maen nhw'n cael eu creu.
Fe wnaeth Mr Jones ymweld â Norwy ym mis Ionawr i ddysgu am eu cysylltiadau â'r UE, a dywedodd fod eu hesiampl nhw'n dangos nad oedd yn rhaid i'r DU adael y farchnad sengl wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Fydden ni ddim â grym dros y rheolau, ond byddai gennym ni fynediad llawn a dilyffethair," meddai'r prif weinidog ddydd Llun.
Er i Mr David gydnabod pwysigrwydd y farchnad sengl i Gymru, mynnodd y byddai'r model Norwyaidd yn golygu derbyn deddfau'r Undeb Ewropeaidd heb fod ag unrhyw ddylanwad.
"Mae hwnna'n bilsen fawr i bobl ei lyncu," meddai, gan awgrymu y dylai'r DU ystyried mabwysiadu elfennau o'r model hwnnw yn hytrach na'r cyfan.
"Mae'n anodd iawn i bobl dderbyn y byddai'r rhan helaeth o'n deddfwriaeth ni am y tro cyntaf yn cael ei wneud gan bobl eraill, ac eto y bydd yn rhaid i ni wneud ein holl fusnes dan y rheolau hynny."
Mae ysgrifennydd cysgodol masnach ryngwladol Llafur, Barry Gardiner eisoes wedi dweud y byddai'r model Norwyaidd yn atal y DU rhag cyflawni'r rhesymau pam i bobl bleidleisio i adael yr UE.
'Blaenoriaethau'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones: "Rydyn ni wedi dadlau yn gyson mai amddiffyn swyddi a'n heconomi ddylai blaenoriaeth trafodaethau Brexit fod.
"Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw drwy sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl ac aros yn yr undeb dollau, fel wnaethon ni amlinellu yn ein papur gwyn Brexit.
"Mae parhau yn aelod o'r EEA yn un opsiwn er mwyn cadw mynediad llawn a dilyffethair, fel sydd gan Norwy, er nad dyna'r unig fodel."