Y chwilio'n parhau am ddyn sydd ar goll yn y Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod yn parhau i chwilio am ddyn 19 oed sydd ar goll o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Cafodd James Corfield ei weld ym Mar yr Aelodau ar y maes nos Lun.
Ychwanegodd yr heddlu fod y llanc hefyd wedi ei weld yn nhafarn y White Horse yng nghanol tref Llanfair ym Muallt am tua hanner nos y noson honno.
Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru wedi rhyddhau datganiad yn dweud bydd gwirfoddolwyr yn ymuno yn yr ymdrech chwilio yn ystod y dydd.
'Chwilio ehangach'
Dywedodd llefarydd ar ran y Ffermwyr Ifanc: "Rydym yn gweithio gyda'r heddlu a'r teulu i helpu i ddod o hyd i James a bydd aelodau CFfI Cymru yn cynorthwyo gyda'r chwilio ehangach heddiw gyda'r heddlu a thimau arbenigol.
"Gall gwirfoddolwyr sydd eisiau cynorthwyo gyda'r chwilio ymgynnull yng nghanolfan y Pentref Ieuenctid am 12:00."
"Credir fod James yn gwisgo crys-t glas Abercrombie & Fitch, jîns ac esgidiau swêd. Taldra James yw 6'2", tenau gyda gwallt tywyll.
"Gofynnwn i unrhyw un allai fod wedi gweld James ers dydd Llun, neu sydd gydag unrhyw wybodaeth i gysylltu â'r Heddlu cyn gynted â phosib ar 101."
Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd yr heddlu y galli pobl leol gynorthwyo yn yr ymdrechion wrth edrych yn eu gerddi, siediau ac adeiladau allanol eraill am unrhyw arwydd o James.
Mae Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog wedi cadarnhau y byddan nhw hefyd yn chwilio afonydd cyfagos ddydd Mercher, ac maen nhw'n rhybuddio pobl i beidio â cheisio chwilio afonydd ar ben eu hunain.
Mewn neges ar wefan Twitter nos Fawrth, fe ddwedon nhw eu bod "dal yn bryderus" amdano, gan apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Yn gynharach ddydd Mawrth, cafodd cyhoeddiad ei wneud amdano ar lwyfan y Clybiau Ffermwyr Ifanc ar faes y sioe.