£10m o arian loteri i adfer yr Hen Goleg yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
hen goleg

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y byddan nhw'n derbyn dros £10m o arian loteri er mwyn ailwampio adeilad yr Hen Goleg.

Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd I ei brynu gan Brifysgol Cymru yn 1867, cyn agor ei ddrysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf yn 1872.

Dyw'r adeilad ddim wedi cael ei ddefnyddio cymaint dros y degawdau diwethaf fodd bynnag, ers i'r brifysgol symud i gampws newydd ym Mhenglais.

Bydd yr adferiad, fydd yn costio cyfanswm o tua £22m, yn troi'r Hen Goleg yn ofod artistig a pherfformio, gyda chaffi ac ystafelloedd cymunedol yn ogystal ag amgueddfa'r brifysgol.

'Cynlluniau cyffrous'

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dweud y byddan nhw'n ceisio canfod gweddill y cyllid o ffynonellau eraill, gan gynnwys ymgyrch godi arian mawr.

Ym mis Chwefror cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r Hen Goleg yn un o'r safleoedd fyddai'n elwa o gronfa ar gyfer adfywio safleoedd ac eiddo gwag.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o ardal Y Cwad yn yr Hen Goleg

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Bebb AS fod ganddo "atgofion melys" o'r adeilad, wrth i gadarnhad ddod am y cyllid loteri

Dywedodd y Farwnes Kay Andrews, ymddiriedolydd y DU a Chadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, y byddai'r cyllid loteri o £10.5m yn "newyddion gwych i Aberystwyth ac i Gymru'n gyffredinol".

"Mae'r cynlluniau cyffrous hyn i roi ail wynt i un o adeiladau hanesyddol mwyaf poblogaidd Cymru yn cynnig hwb arwyddocaol ac amserol i ddiwylliant ac economi Aberystwyth a thu hwnt."

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth eu bod yn gobeithio cwblhau'r gwaith adnewyddu erbyn 2022, mewn pryd i ddathlu 150 mlwyddiant y brifysgol.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Gallai neuadd yr Hen Goleg fod yn lleoliad ar gyfer cynadleddau

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd canolfan wyddonol hefyd yn rhan o'r adeilad rhestredig Gradd I

Yn ogystal â'r gofodau perfformio ac artistig, mae'r brifysgol hefyd yn dweud y bydd yr adeilad yn cynnwys canolfan wyddonol, a chanolfan mentergarwch ble bydd graddedigion yn cael eu hannog i aros yn y dref a sefydlu busnesau newydd.

"Ag yntau wedi'i adeiladu gyda cheiniogau chwedlonol y werin, mae'n gweddu rhywsut fod arian gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn adfywio'r adeilad ac economi'r rhan hyfryd hon o Gymru," meddai'r is-ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure.

"Ein gobaith yn awr yw y daw'r Hen Goleg yn ganolfan ar gyfer arddangos ymchwil, addysgu a thrysorau rhagorol Prifysgol Aberystwyth, tra'n darparu cyfleusterau bywiog newydd ar gyfer ymwelwyr a'r gymuned leol sy'n bartneriaid allweddol yn y fenter hon."