Deddfu a'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae 27 Gorffennaf yn nodi union 50 mlynedd ers i Ddeddf yr Iaith Gymraeg gyntaf ddod i rym, a oedd yn rhoi hawliau cyfyngedig i ddefnyddio'r iaith mewn achosion cyfreithiol. Ond beth oedd ei arwyddocâd?
Yr ymgyrchydd
Yn siarad ar raglen Witness y BBC World Service, dywedodd Dafydd Iwan, a oedd yn ymgyrchydd amlwg dros fwy o hawliau i'r Gymraeg yn y cyfnod: "Cafodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei sefydlu yn bennaf i ymgyrchu dros gael statws swyddogol i'r Gymraeg. Roedd hi'n darged syml sef cael statws swyddogol i'n iaith ein hunain yn ein gwlad ein hunain.
"Doedd [y ddeddf] ddim yn gam enfawr ymlaen ar y pryd ond wrth edrych yn ôl nawr o bersbectif 50 mlynedd, dwi'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod Deddf Iaith 1967 fel y foment o dorri drwodd.
"Mae 'na sawl deddf wedi bod ers hynny ac ry'n ni dal angen un arall i wneud pethau'n iawn. Dyna'r ffordd, yn anffodus, y mae newid yn digwydd - cam wrth gam."
Y gwleidydd
Er nad oedd Elystan Morgan, Aelod Seneddol Llafur dros Geredigion ar y pryd, yn llwyr gytuno â gweithredoedd rhai o ymgyrchwyr y cyfnod, roedd yn gefnogol iawn o'r ymgyrch i gael mwy o statws i'r Gymraeg.
"Dwi'n credu bod ei arwyddocâd hi o edrych yn ôl nawr yn hanesyddol ac aruthrol," meddai'r Arglwydd Elystan Morgan ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru.
"Roedd ei sgôp hi'n gyfyngedig ond roedd hi'n rhywbeth mawr ac unigryw - y diwygiad cynta' o unrhyw werth o gwbl ers [Deddf Uno] 1536."
Y cyfreithiwr
Mewn cynhadledd ym mis Mai eleni, dywedodd cyn-gadeirydd Comisiwn y Gyfraith, Syr David Lloyd Jones, fod yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd erbyn heddiw yn "anghenraid sylfaenol".
Mae'r llysoedd bellach yn ieithyddion arbenigol, meddai, sy'n cynnig offer cyfieithu safonol. Mae 40 o farnwyr bellach yn medru'r iaith yng Nghymru.
Llinell amser - y Gymraeg mewn 50 mlynedd
1967: Pasio Deddf yr Iaith Gymraeg am y tro cyntaf.
1982: Sefydlu S4C, sianel deledu Gymraeg, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu.
1993: Deddf Iaith newydd yn rhoi cydraddoldeb i'r Gymraeg â Saesneg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
2011: Deddf Iaith newydd yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg. Er bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cael ei diddymu, mae'r ddeddf yn creu swydd newydd, sef Comisiynydd y Gymraeg.
2017: Llywodraeth Cymru yn dechrau ymgyrch i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.