Arfordir Cymru'n hafan i siarcod prin?

  • Cyhoeddwyd
MaelgiFfynhonnell y llun, Carlos Suarez
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r Maelgi, sy'n byw ar wely'r môr, ddim yn beryglus i bobl

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dechrau ar brosiect i gasglu tystiolaeth am siarc prin yn y dyfroedd ar hyd arfordir Cymru.

Roedd y Maelgi (Angel Shark) yn gyffredin ar draws Ewrop ar un adeg, ond mae bellach ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o greaduriaid sydd mewn perygl difrifol.

Dim ond o amgylch yr Ynysoedd Dedwydd y maen nhw i'w gweld yn aml erbyn hyn, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer cynyddol o'r pysgod wedi eu gweld ar hyd arfordir Cymru.

Nawr, mae gwyddonwyr o CNC a Chymdeithas Sŵoleg Llundain yn cydweithio gyda physgotwyr ac eraill i geisio darganfod mwy am eu niferoedd.

Ddim yn beryglus

Fe all Maelgwn dyfu i fod hyd at ddau fetr a hanner o hyd. Dydyn nhw ddim yn beryglus i bobl, ac maen nhw'n byw gan amlaf ar wely'r môr gan fwydo ar bysgod bach.

Dywedodd Ben Wray, ecolegydd bioamrywiaeth morol gyda CNC fod pysgotwyr wedi bod yn adrodd eu bod yn gweld mwy o Faelgwn dros y blynyddoedd diwethaf.

"Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am ecoleg y siarc yn nyfroedd Cymru ar hyn o bryd - gallai'r boblogaeth fod yn bresennol trwy gydol y flwyddyn, neu dim ond am ran o'r flwyddyn," meddai.

"Mae'r ffaith bod pysgotwyr a genweirwyr masnachol ar hyd arfordir Cymru yn ein helpu gyda'r ymchwil yma yn bwysig iawn, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cymorth.

"Rydym yn gobeithio y bydd y data a gasglwn yn ein helpu i greu darlun llawer gwell o'r sefyllfa ac yn helpu ein gwaith i warchod y creaduriaid rhyfeddol hyn."

Dywedodd Jim Evans o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru: "Gwelwyd Maelgwn oddi ar arfordir Cymru gan bysgotwyr am nifer o flynyddoedd, ac mae'r cyfle yma i wella ein dealltwriaeth o ddeinameg poblogaeth Cymru yn cael ei groesawu gan, ac yn glod i, bysgotwyr Cymru."