Pryder am effaith Brexit ar gerddorfeydd y DU
- Cyhoeddwyd
Fe allai rhai cerddorion adael cerddorfeydd y DU oherwydd "ansicrwydd" ynglŷn ag effaith Brexit, yn ôl arweinydd blaengar.
Dywedodd Owain Arwel Hughes, sylfaenydd Proms Cymru, fod pryder am yr oblygiadau i artistiaid o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl i Brydain adael yn 2019.
Erbyn mis Mawrth 2019 mae llywodraeth y DU yn gobeithio gadael yr UE.
Mae'r Adran Gadael yr UE wedi derbyn cais i wneud sylw ar y mater.
'Rhaid cael y goreuon'
Yn ystod Proms Cymru eleni mae cerddorfa'r Royal Philharmonic yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Dywedodd Mr Hughes fod y gerddorfa yn ddibynnol ar berfformwyr o wledydd eraill yn Ewrop.
"I gael safon cerddorfa fel y Royal Philharmonic, mae'n rhaid iddyn nhw gael y goreuon o Ewrop i ddod i mewn i chwarae.
"Yn gyntaf, maen nhw eisiau dod. Mae hynny'n bwysig eu bod nhw eisiau dod i chwarae i'r Royal Philharmonic, ac i gerddorfeydd yn y wlad yma, ym Mhrydrain.
"Mae'r ansicrwydd wedyn - ydyn nhw'n mynd i aros gyda ni? Achos mae'n nhw'n meddwl, 'Os oes ansicrwydd, well i ni fynd yn ol rŵan i'n gwledydd ni achos 'dyn ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd.' Fe fyddai hynny yn rhywbeth ofnadwy i'n cerddorfeydd, i'n safon ni."
Mae Owain Arwel Hughes yn arwain cerddorfeydd yn gyson yng Nghaerdydd, Llangollen a Llundain, ac yn teithio i ddinasoedd Ewrop gyda'i waith.
Dywedodd fod hi'n dasg symldod â chantorion a cherddorion o wledydd yr UE ar y funud olaf i lwyfannau ledled Prydain os oes angen gwneud oherwydd salwch, ond fe fyddai unrhyw gyfyngiadau ar y rhyddid i symud yn effeithio ar gyngherddau'r dyfodol.
"Pe bai opera yn digwydd yn Covent Garden ac mae'r canwr yn sâl, fel sy'n digwydd yn aml, fel arfer byddai modd cael rhywun tebyg i deithio o unrhyw le.
"Ond os yw'r rhyddid yna'n diflannu, yna fyddwch chi byth yn llwyddo dod â rhywun draw mewn pryd. Bydd rhaid mynd trwy geisiadau am fisas, a phwy â wyr beth arall.
"Yr un broblem fyddai'n bodoli gyda cherddorion yn chwarae mewn cyngherddau ag ati. Mae cael y rhyddid i wybod bod modd llenwi rôl yn sydyn yn bwysig iawn, iawn."
'Cyfle nid bygythiad'
Ond yn ôl y newyddiadurwr celfyddydau Mike Smith, a gefnogodd yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae angen i'r rhai sy'n poeni am yr ansicrwydd ddatblygu agwedd optimistaidd am y dyfodol.
"Fy neges iddyn nhw yw i ystyried hwn fel cyfle yn hytrach na bygythiad," meddai.
"Rhaid ystyried y pethau rydyn ni wedi dysgu o'n aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd - bod rhaid i'n hartistiaid allu teithio dros ffiniau gwledydd gwahanol, ond dylwn ni fynd nôl at weledigaeth fwy rhyngwladol, ac fe ddylwn ni fod yn trafod rhyddid i symud ar lwyfan byd-eang yn lle."
Mae tipyn o ryddid gan gerddorion a'u hofferynnau i symud rhwng gwledydd yr UE ar hyn o bryd. Tu hwnt i'r UE, yn aml mae'n rhaid talu am fisas a gwaith papur eraill i sicrhau bod modd cyrraedd cyngherddau.
Andy Farquharson sy'n gyfrifol am drefnu cyngherddau ar daith i gerddorfeydd a pherfformwyr. Dywedodd ei fod yn disgwyl ennill mwy o waith os yw pryderon rhai yn y diwydiant yn cael eu gwireddu.
"Ar hyn o bryd mae'n weddol syml, yn arbennig o fewn yr UE. Os ydych chi am fynd yn bellach mae angen trwyddedau nid yn unig ar gyfer perfformwyr, ond ar gyfer eu hofferynnau hefyd. Mae'n nhw'n cael eu diffinio fel nwyddau diwylliannol.
"Felly rŵan mae tipyn o ryddid i symud o gwmpas, ond y pryder yw - os yw ffiniau caled yn codi - yna bydd symud o gwmpas yn fwy cymhleth.
"A dyna phryd fydd cwmnïau fel fy un i yn gweithio'n galetach i gefnogi pobl, achos pan rydych chi'n cyrraedd y pwynt pan 'da chi'n barod i fynd ar eich taith, mae'n rhy hwyr erbyn hynny i drïo trefnu'r gwaith papur i gyd."
Mae'r grŵp gwerin Calan yn teithio'n gyson i Ewrop a gogledd America. Yn ôl Angharad Jenkins, sy'n chwarae'r ffidil yn y grŵp, mae'r trefniadau yn dra gwahanol.
"Mae 'na wahaniaeth mawr yn y ffordd ry' ni'n teithio yn y ddau ran yna o'r byd," meddai.
"Yn Ewrop ry'n ni'n gallu teithio yn ddidrafferth. Yr unig beth mae'n rhaid i ni wneud yw bwco'r flights neu'r ferry neu beth bynnag, ac ry'n ni yna yn y gig, a does dim eisiau meddwl am unrhyw beth arall.
"Ar y llaw arall, yn America, mae rhaid ymgeisio am fisa ac mae hwnna'n broses gostus iawn. Mae 'na broses gweinyddol cymhleth dros ben sy'n cymryd oriau o'n amser, yn ogystal ag apwyntiad yn Llundain yn llysgenhadaeth yr UDA.
"Petai rhaid i ni fynd trwy'r fath yna o broses yn Ewrop yna bydda fe'n ben tost ofnadwy, a bydde fe'n ofnadwy i gerddorion."