Cylch Haearn: 'Anwybodaeth lwyr o hanes Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Artist impression of the Iron Ring Design
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r Cylch Haearn yn costio £395,000

Mae'r cynlluniau dadleuol i gael cerflun 'cylch haearn' ger Castell Y Fflint yn dangos "anwybodaeth tost " o hanes Cymru, medd hanesydd blaenllaw.

Mae deiseb ag arni dros ddeg mil o enwau wedi galw am gael gwared â'r cynlluniau gan eu bod yn symbol o orthrwm Lloegr dros Gymru.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi oedi cyn gweithredu ac yn adolygu'r penderfyniad.

Yn ôl yr hanesydd Dr Elin Jones, mae'r cynllun yn dangos nad oes cysylltiad rhwng barn y rhai sy'n penderfynu a barn y bobl.

Roedd y cerflun fod i gynrychioli y berthynas rhwng teuluoedd brenhinol yn y canol oesoedd a'r cestyll wnaethon nhw eu codi - roedd castell Y Fflint yn un o'r cestyll cyntaf i Edward 1 godi yng Nghymru a hynny yn 1277.

Yn ôl y penseiri a gynlluniodd y cerflun mae e i fod i ddangos "natur ansefydlog y goron".

Ond yn ôl beirniaid "y cylch o haearn" oedd yr enw a roddwyd i'r gadwyn o gestyll ar draws Cymru - cestyll a gafodd eu hadeiladu er mwyn concro a darostwng y Cymry.

Yn ôl Dr Elin Jones sydd wedi bod yn edrych ar sut mae hanes yn cael ei ddysgu yn ysgolion Cymru mae'r cyfan yn dangos anwybodaeth tost o hanes Cymru.

Dywedodd: "Mae'r ffaith i Cadw beidio ag amgyffred y byddai'r cynllun yn sarhad yn dangos nad ydynt yn ymwybodol o'r hyn yw Cymru na chwaith yn ymwybodol o deimladau'r Cymry am eu gwlad."

Ychwanegodd Dr Jones fod y cerflun i gofio trychineb lofaol Six Bells ym Mlaenau Gwent yn enghraifft o'r hyn y dylai cofgolofnau yng Nghymru ei gynrychioli.

Ffynhonnell y llun, Mike Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Cofeb Y Gwarcheidwad yn Six Bells, Blaenau Gwent

"Mae cerflun Y Gwarcheidwad," meddai Elin Jones ar raglen Sunday Supplement y BBC, "yn siarad â phobl yr ardal.

Dywedodd Jonathan Jones, cyn brifweithredwr Croeso Cymru fod cerflun Fflint o bosib yn dangos diffyg sensitifrwydd ond fe ddywedodd hefyd y gallai gynrychioli ysbryd y Cymry gan ei fod yn portreadu methiant Edward 1 i amgylchynu Cymru â chylch o haearn.

"Mi fyddwn i yn cael Owain Glyndŵr yn y canol a phobl yn cerdded o amgylch yr ymyl yn gwrando ar Yma o Hyd Dafydd Iwan," ychwanegodd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: "Ry'n wedi gwrando a chydnabod gwres y teimladau ynghylch y cerflun a phriodol i ni felly ar hyn o bryd yw oedi ac adolygu'r cynlluniau."

Ar ran Cadw dywedodd llefarydd fod "celf yn rhannu barn, yn annog trafodaeth ac yn rhywbeth y gellid ei ddehongli mewn sawl ffordd".