Cynllun i wneud y mwyaf o Draphont Ddŵr Pontcysyllte

  • Cyhoeddwyd
Traphont Ddŵr PontcysyllteFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynllun yn cael ei lunio mewn ymdrech i wneud defnydd gwell o'r tir yng nghysgod Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Wrecsam.

Mae cwmni cemegol Solutia, sy'n berchen ar 147 erw o dir gerllaw, yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus gyda'r elusen sy'n rhedeg Camlas Llangollen.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd ei bod yn gobeithio cyhoeddi'r cynllun erbyn mis Tachwedd.

Yn ôl yr ymddiriedolaeth mae'r syniadau sydd eisoes wedi'u cynnig yn cynnwys adeiladu canolfan ymwelwyr a chreu llwybrau cerdded a seiclo newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y draphont ei hadeiladu rhwng 1796 ac 1805 dan oruchwyliaeth Thomas Telford

Mae'r draphont ddŵr, sydd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, a'r gamlas yn denu tua 300,000 o ymwelwyr pob blwyddyn.

Ond dywedodd llefarydd o'r ymddiriedolaeth bod ganddi'r "potensial i ddenu mwy o swyddi a llewyrch economaidd i'r ardal".

Fe gafodd y draphont ei hadeiladu rhwng 1796 ac 1805 dan oruchwyliaeth Thomas Telford, wnaeth hefyd ddylunio Pont Menai rhwng Gwynedd a Môn.