Costau staffio'r Cynulliad yn cynyddu 90% mewn degawd
- Cyhoeddwyd
Mae costau staffio'r corff sydd yn gyfrifol am redeg y Cynulliad wedi cynyddu bron i 90% mewn degawd.
Fe wnaeth nifer y staff sydd yn cael eu cyflogi gan Gomisiwn y Cynulliad, gafodd ei sefydlu yn 2007, hefyd gynyddu o 44%.
Bellach mae'r corff yn cyflogi 448 o staff, gan gynnwys staff asiantaeth a staff wedi'u secondio.
Mae'r Cynulliad wedi amddiffyn y cynnydd, gan ddweud ei fod "yn gymesur" â'r cynnydd yng ngrymoedd y Cynulliad.
Mwy o gyfrifoldebau
Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf roedd costau staffio'r comisiwn yn £19.8m - ffigwr sydd ddim yn cynnwys cyflogau Aelodau Cynulliad a'u staff.
Cafodd y comisiwn ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl yn dilyn newid i'r gyfraith oedd yn sefydlu Llywodraeth Cymru fel corff ar wahân i'r Cynulliad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad fod y sefydliad wedi "derbyn pwerau a chyfrifoldebau sylweddol" ers 2007, a bod y gost wedi codi er mwyn adlewyrchu'r newidiadau hynny.
Ond yn ôl Rachel Banner, wnaeth arwain yr ymgyrch yn erbyn mwy o bwerau i'r Cynulliad yn 2011, byddai trethdalwyr yn "brawychu" o wybod faint o gynnydd sydd wedi bod.