Tyrau yng Nghasnewydd yn methu profion cladin pellach
- Cyhoeddwyd
Mae gorchudd waliau sy'n debyg i'r math sydd ar dyrrau yng Nghasnewydd wedi methu profion diogelwch pellach.
Dangosodd profion system llawn bod y cladin oedd yn cyfuno alwminiwm a gwlân ddim yn ddigon i atal tân rhag lledu.
Roedd gorchudd y tyrau 11 llawr, sy'n eiddo i Newport City Homes, wedi methu profion blaenorol ym mis Gorffennaf.
Mae'r cwmni yn dweud eu bod canolbwyntio ar sicrhau diogelwch eu tenantiaid.
'Arolygiadau cyson'
"Mae ein bwrdd eisoes wedi cymeradwyo gosod gwasgarwyr dŵr," meddai Rob Lynbeck o'r cwmni.
"Ym mhob un o'n tyrrau rydym yn cyflwyno wardeniaid tân fydd yn cynnal arolygiadau cyson o'r adeilad trwy'r dydd a'r nos.
"Rydym hefyd yn gweithio ag arbenigwyr annibynnol ar raglen o waith i dynnu a newid y cladin. Fe allai gymryd tipyn o amser ond mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn."
Daw'r profion diogelwch wedi trychineb Tŵr Grenfell yn Llundain, laddodd ddegau o bobl.