Cyn-gyfarwyddwr S4C i gadeirio adolygiad o'r sianel

  • Cyhoeddwyd
Euryn Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Euryn Ogwen Williams yn gyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau mai cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C, Euryn Ogwen Williams fydd yn cadeirio adolygiad annibynnol o'r sianel.

Bydd yn edrych ar elfennau megis cylch gwaith y sianel, llywodraethu, ei atebolrwydd a'i bartneriaeth â'r BBC, a'r dulliau cyllido presennol, ac mae disgwyl iddo adrodd yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.

Mae gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb wedi bod yn lansio'r adolygiad o'r sianel ar faes yr Eisteddfod ym Modedern brynhawn Llun.

Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones ei fod yn "gyfle allweddol i nodi pwysigrwydd cyfraniad unigryw gwasanaeth S4C".

Ym mis Chwefror y llynedd cyhoeddodd y llywodraeth y bwriad i gynnal adolygiad eleni.

Ar y pryd, dywedodd y llywodraeth mai'r bwriad oedd i S4C i "barhau i ddarparu gwasanaeth dosbarth cyntaf, ac i gael dyfodol cynaliadwy".

Disgrifiad,

Guto Bebb: Eisiau 'llais y gwylwyr' yn adolygiad S4C

Mae S4C yn derbyn £6.8m gan Lywodraeth y DU - cyllideb sydd wedi'i rhewi ers cyhoeddiad yr adolygiad - tra bod y BBC wedi ymrwymo i roi £74.5m bob blwyddyn nes mis Ebrill 2022.

Mae'r sianel hefyd yn derbyn swm cymharol isel o incwm masnachol.

'Cyfnod hollbwysig'

Dywedodd Mr Williams: "Roedd yn anrhydedd mawr cael gwahoddiad i arwain adolygiad S4C, a hynny yn ystod cyfnod allweddol i'r sefydliad pan mae'n mynd i'r afael â'r heriau mae'n eu hwynebu wrth i'r dirwedd cyfryngau newid yn gyflym.

"Bydd y ddegawd nesaf yn fwy heriol byth wrth i S4C, fel pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, feithrin y berthynas â'i gynulleidfaoedd yn y byd digidol.

"Mae'n rhaid iddo hefyd chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o ddatblygu'r Gymraeg mewn cyfnod hollbwysig yn ei hanes."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Guto Bebb yn lansio'r adolygiad o'r sianel ar faes yr Eisteddfod ym Modedern brynhawn Llun

Cyhoeddodd y llywodraeth ym mis Mawrth y bydd yn rhoi £350,000 o arian cyfalaf ychwanegol i S4C ar gyfer 2017/18 i'w helpu i uwchraddio offer technegol a thechnoleg gwybodaeth.

Cafodd ei gyhoeddi ddydd Llun y bydd y BBC hefyd yn rhoi un taliad o £350,000 yn yr un cyfnod i roi "rhagor o sefydlogrwydd yn ystod cyfnod yr adolygiad".

'Dealltwriaeth ragorol'

Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Karen Bradley: "Mae gan Euryn lawer iawn o brofiad ym maes darlledu yng Nghymru, ac ef oedd y Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf pan sefydlwyd S4C yn 1982.

"Bydd ei ddealltwriaeth ragorol o ddarlledu yng Nghymru, yn ogystal â'r iaith, y diwylliant a'r gymdeithas yng Nghymru, yn sicr yn dwyn budd i gynnydd yr adolygiad pwysig hwn."

Dywedodd Mr Bebb bod y llywodraeth "wedi pwysleisio droeon ei hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu Cymraeg annibynnol a chryf".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Jones wedi croesawu'r ffaith mai Euryn Ogwen fydd yn cadeirio'r adolygiad

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ynglŷn ag adolygu S4C, a'r ffaith bod Euryn Ogwen Williams - darlledwr profiadol a dadansoddwr craff o ddyfodol y cyfryngau - wedi cael ei benodi i arwain yr adolygiad.

"Bydd yr adolygiad yn gyfle allweddol i nodi pwysigrwydd cyfraniad unigryw gwasanaeth S4C at ddiwylliant ac economi Cymru a'r Deyrnas Unedig, ac at ddyfodol yr iaith Gymraeg."

Bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu cyflwyno i'r Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ddiweddarach eleni.

Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru

Ers cyhoeddi'r bwriad i gynnal adolygiad o S4C, mae'n teimlo fel bod pawb eisoes wedi cael dweud eu dweud.

Mae'r drafodaeth gyhoeddus - gan wleidyddion, S4C a'r diwydiant ehangach - wedi canolbwyntio ar ddau beth: arian a chylch gwaith y sianel.

Heb gynnydd yn y gyllideb, bydd rhai yn dadlau ei fod yn anochel y bydd rhaid gwneud penderfyniadau caled ynglŷn â buddsoddi mewn rhaglenni i'r sianel deledu, neu gynnwys digidol i'r llwyfannau newydd.

Ond mae'r BBC yn dweud bod y gyllideb sy'n dod o ffi'r drwydded wedi'i benderfynu hyd nes 2022, ac mae Llywodraeth y DU - sydd wedi torri 'nôl ar gyllideb S4C ers 2010 - yn annhebygol o eisiau cynyddu'r arian yn sylweddol.

Fel un oedd yna ar ddyfodiad y sianel yn 1982 mae gan Euryn Ogwen Williams ddigon o brofiad, ond mae rhai eisoes wedi cwestiynu os mai'r person orau i ystyried y dyfodol ydy rhywun gyda chysylltiad mor agos at hanes cynnar S4C.

'Mwy o arian cyhoeddus'

Mae cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, Iestyn Garlick wedi croesawu cyhoeddiad y llywodraeth ar adeg "dyngedfennol" i ddyfodol S4C, ond mae'n galw am gynnydd yn yr arian cyhoeddus y mae'n ei dderbyn.

"Mae perthynas unigryw S4C â'r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru'n galluogi i'r darlledwr gyflenwi ystod o raglenni o safon uchel," meddai.

"Ond mae cynnydd mewn rhaglenni newydd yn angenrheidiol er mwyn denu cynulleidfaoedd, ac oherwydd hyn, mae TAC yn galw am godiad un-tro o 10% yng nghyfanswm yr ariannu cyhoeddus mae S4C yn ei dderbyn.

"Yn ogystal, rhaid clymu'r ariannu â chwyddiant.

"Dylid cynnal a chryfhau annibyniaeth S4C, heb fod arni ymrwymiad ffurfiol i adrodd i'r BBC, a dylai ei chylch gorchwyl sicrhau bod y mwyafrif helaeth o'i rhaglenni'n deillio o'r amrywiol gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru. "