Dechrau ymchwiliad i ymarfer corff plant yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i beth sy'n atal plant a phobl ifanc rhag gwneud mwy o ymarfer corff.
Fe fydd gweithdy yn lawnsio'r ymchwiliad gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y llywodraeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ddydd Mawrth.
Bydd pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yn trafod gyda chadeirydd y pwyllgor, Dr Dai Lloyd a'r Aelod Cynulliad lleol, Rhun ap Iorwerth.
Yn ôl Dr Lloyd, bydd yr ymchwiliad yn edrych i weld a yw'r ymdrech i gynyddu ymarfer corff ymysg plant a phobl ifanc yn gweithio.
Mesur pwysau gwaed
Yn ystod y lawnsiad bydd yr Aelodau Cynulliad yn pedalu dros 1km neu 0.6 milltir ar feic ymarfer, gyda Dr Lloyd - sy'n feddyg teulu rhan amser - yn cymryd eu pwysau gwaed.
Dywedodd Dr Lloyd y bydd hefyd ystyriaeth i a yw merched yn cael llai o gyfleon ac a oes gwahanol agweddau tuag at fechgyn ac ymarfer corff.
Mae'r ffigyrau diweddaraf o arolwg ysgolion Chwaraeon Cymru o 2015 yn awgrymu mai 48% o ddisgyblion blynyddoedd 3-11 wnaeth gymryd rhan mewn chwaraeon clwb cymunedol neu chwaraeon tu allan i furiau'r ysgol mwy na thair gwaith yr wythnos - cynnydd o 40% ers 2013.
Ychwanegodd Dr Lloyd bod dros chwarter plant oed derbyn yng Nghymru naill ai dros eu pwysau neu'n ordew, a bod gordewdra yn fwy tebygol mewn ardaloedd difreintiedig.
Yn ôl Dr Lloyd: "Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif eisoes mai'r gost flynyddol i Gymru sy'n deillio o anweithgarwch corfforol yw £650m.
"Rydym yn awyddus i edrych ar effeithiolrwydd ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu gweithgarwch corfforol, ac i drafod a yw merched yn cael llai o gyfleoedd na bechgyn i wneud gweithgarwch corfforol ac a oes ganddynt agweddau gwahanol yn y cyd-destun hwn."
Bydd modd i bobl i gyflwyno syniadau ac awgrymiadau i'r ymgynghoriad drwy dudalennau gwe'r pwyllgor tan 15 Medi.