Sgwâr Canolog Caerdydd i gartrefu 4,000 o weision sifil
- Cyhoeddwyd

Mae datblygiad y Sgwâr Canolog yn debygol o drawsnewid canol y ddinas
Fe fydd 4,000 o weision sifil Llywodraeth y DU yn gweithio yn natblygiad Sgwâr Canolog Caerdydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi arwyddo les 25 mlynedd am swyddfeydd ar y safle, fydd yn gartre' i nifer o adrannau, gan gynnwys yr awdurdod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Yn 2015, cyhoeddodd HMRC fwriad i ganoli gwasanaethau mewn 13 canolfan ranbarthol ar draws y DU, gyda'r bwriad o gau safleoedd yn Abertawe, Wrecsam a Phorthmadog.
Daeth datganiad fis diwethaf y bydd y swyddfa ym Mhorthmadog yn aros ar agor wedi'r cwbl.
Mae'r Sgwâr Canolog yn ddatblygiad yng nghanol y brifddinas, ger yr orsaf reilffordd, a bydd y safle llawn hefyd yn gartref i bencadlys newydd BBC Cymru.
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd eu canolfan yn barod i'w gweithwyr erbyn 2020.