Agor cwest i farwolaeth James Corfield
- Cyhoeddwyd

Clywodd y cwest fod deifwyr wedi dod o hyd i gorff James Corfield yn Afon Gwy
Clywodd cwest i farwolaeth llanc ifanc fu farw yn afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt fis diwethaf fod ei gorff gael ei gafnod yn y dŵr gan ddeifwyr.
Fe aeth James Corfield o Drefaldwyn ar goll yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Cafodd ei weld ddiwethaf yn gadael tafarn y Ceffyl Gwyn yn Llanfair-ym-Muallt yn ystod oriau man dydd Mawrth, 25 Gorffennaf.
Roedd James i fod i gyfarfod â'i deulu ar faes y Sioe ddydd Mawrth, ond wedi iddo fethu ag ymddangos, cafodd y gwasanaethau brys eu galw a bu chwilio amdano am ddyddiau.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod bum niwrnod yn ddiweddarach yn Afon Gwy.

Criwiau'n chwilio am James Corfield wedi ei ddiflaniad
Yn y cwest yn Llys y Crwner yn Aberdâr ddydd Mawrth, darllennodd un o swyddogion y crwner, Gareth Heatley, adroddiad byr o'r oriau'n arwain at ddiflaniad Mr Corfield, a'r hyn ddigwyddodd wedyn.
Cafodd ei weld yn fyw am y tro olaf ar gamera cylch cyfyng yn cerdded ar draws maes parcio yn Llanfair-ym-Muallt am 00:01 ar 25 Gorffennaf.
"Ar 30 Gorffennaf, cafodd ei gorff ei ddarganfod yn y dŵr yn Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt," medd Mr Heatley.
"Dydy'r heddlu ddim yn amau fod gan unrhyw un arall ran yn y digwyddiad."
Dywedodd Mr Heatley fod mam Mr Corfield wedi adnabod y corff yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ar 31 Gorffennaf.
Cafodd y cwest ei ohirio, ac mae disgwyl i'r gwrandawiad llawn gael ei gynnal ar 10 Tachwedd yn Neuadd y Dref yn y Trallwng.