Cadarnhau darganfod corff James Corfield

  • Cyhoeddwyd
James CorfieldFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau mai corff James Corfield gafodd ei ddarganfod yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Sul.

Roedd Mr Corfield, 19 oed, wedi mynd ar goll yn ystod y Sioe Frenhinol yr wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth Tîm Achub Mynydd Aberhonddu ganfod ei gorff mewn pwll dwfn yn Afon Gwy dros y penwythnos.

Doedd neb wedi gweld Mr Corfield ers iddo adael tafarn Y Ceffyl Gwyn yn Llanfair-ym-Muallt yn ystod oriau mân fore Mawrth, Gorffennaf 25.

Gydol wythnos y Sioe bu plismyn, timau achub a gwirfoddolwyr yn chwilio am y gŵr ifanc o Drefaldwyn.

Dywedodd yr heddlu fod ei deulu yn cael cefnogaeth swyddogion arbennig ers cael gwybod am y darganfyddiad.

'Calonnau wedi torri'

Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Roedd James yn ddyn ffarm ac yn ddyn teulu - ffermio oedd ei fywyd, ac roedd e'n caru anifeiliaid yn angerddol.

"Roedd ei ymweliad â'r Sioe Frenhinol yn uchafbwynt iddo - ac roedd gweld y defaid a'r ieir yn cael eu barnu'n rhywbeth yr oedd yn edrych ymlaen yn arw ato.

"Aeth i'r Sioe Frenhinol bob blwyddyn drwy gydol ei fywyd, ac mae gennym atgofion melys o fynd ag ef yn blentyn y byddwn ni'n eu trysori am byth

"Roedd James yn gricedwr brws a dawnus, ac roedd e'n chwarae i Glwb Criced Trefaldwyn.

"Yn ddiweddar, derbyniodd wobr Cricedwr y Flwyddyn Rhanbarth Dau Swydd Amwythig, a gwobr chwaraewr ifanc y flwyddyn y gynghrair yn 2016, sy'n gamp aruthrol ar gyfer rhywun o'i oed ef, ac yn rhywbeth yr oedd yn falch iawn ohono.

"Byddwn ni'n gweld eisiau James yn ofnadwy, ac mae ein calonnau wedi torri."

Fe wnaeth y teulu hefyd ddiolch i'r gwirfoddolwyr fu'n helpu chwilio amdano ac am y negeseuon caredig, gan ofyn hefyd am breifatrwydd.