£50m yn fwy i ostwng amseroedd aros GIG

  • Cyhoeddwyd
NHS wardFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i roi £50m yn ychwanegol i'r Gwasnaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru er mwyn gostwng amseroedd aros.

Mae'r arian a fydd yn dod o gronfeydd wrth gefn y llywodraeth wedi'i anelu ar gyfer gostwng amseroedd aros ar gyfer triniaethau cyn llawdriniaeth, diagnosteg a therapïau arbenigol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething y bydd yr arian yn helpu'r GIG i ddelio gyda'r galw cynyddol am y gwasanaeth.

Ond yn ôl Angela Burns o'r Ceidwadwyr Cymreig mae angen cynllunio gwell.

Dywedodd Mr Gething: "Mae'r galw am wasanaethau'r GIG yng Nghymru, ac yng ngwledydd eraill y DU, yn parhau i dyfu.

"Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG i ddarparu gofal amserol i gleifion."

Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr arian ychwanegol yn helpu gyda'r cynnydd mewn galw medd Yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething

Mae'r £50m sydd ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn 0.68% o'r £7.3bn sydd wedi cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer iechyd, lles a chwaraeon.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd: "Er fy mod yn disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau cynaliadwy sy'n bodloni anghenion eu poblogaeth leol, bydd y buddsoddiad o £50m dwi'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu GIG Cymru i ymdopi â'r galwadau ychwanegol drwy leihau amseroedd aros ymhellach mewn meysydd allweddol, megis llawdriniaeth ddewisol, diagnosteg a therapïau."

Dywed Llywodraeth Cymru bod yr atgyfeiriadau i wasanaethau mewn ysbytai wedi cynyddu o oddeutu 20% rhwng 2013 a 2016 - o 1.07 miliwn yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013 i 1.27 miliwn yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016.

Roedd nifer y bobl a oedd yn aros dros wyth wythnos am wasanaethau triniaeth diagnostig yn 7,252 ym Mai - lawr 24,952 ers Mai 2014.

Ond ym Mai 2010 roedd y ffigwr yn 2,588 ac yn sylweddol is.

Roedd nifer y rhai a oedd yn aros dros 36 wythnos rhwng cael eu cyfeirio gan y meddyg a thriniaeth yn 12,354 ym Mawrth 2017. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y nifer yn is na'r nifer yn Awst 2015 - roedd y nifer bryd hynny yn 28,654.

Angela Burns
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Burns yn dweud bod yr aros mae cleifion yn gorfod ei wneud yn greulon

Dywedodd Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod y dioddef mae cleifion sy'n aros am driniaeth yn gorfod ei wynebu yn greulon.

Er yn croesawu arian ychwanegol dywedodd bod y "mater yn fwy nag arian".

"Rhaid cynllunio yr adnoddau presennol yn well a chwtogi ar wastraff."

Galwodd Ms Burns hefyd ar y llywodraeth i beidio "oedi cyn dod a strategaeth arloesol a fyddai'n elwa o wybodaeth gwyddonol a chyrff o arbenigwyr er mwyn delio gyda'r materion parhaol sy'n llethu'r gwasanaeth iechyd".