Cadeirydd y pwyllgor gwaith yn 'falch' o bobl Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Derec Llwyd Morgan

"Llond cae o Eisteddfodwyr brwdfrydig balch a safonau artistig ardderchog" ydi'r ffordd bydd cadeirydd y pwyllgor gwaith yn cofio'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Wrth i'r brifwyl yn Ynys Môn ddirwyn i ben dywedodd yr Athro Derec Llwyd Morgan ei fod yn falch o fod wedi cael bod yn "gapten ar dîm cyffrous a chymharol ifanc sydd wedi ysgwyddo cyfrifoldebau mawr gyda pharodrwydd rhyfeddol," dros yr wythnos.

Ar ddechrau'r wythnos roedd yn rhaid i drefnwyr yr Eisteddfod ymddiheuro am yr oedi'n cyrraedd y maes wrth i'r meysydd parcio symud i faes Mona, gyda bysus gwennol yn cludo pobl i'r maes.

Bellach mae ambell un yn disgrifio'r brifwyl eleni fel 'Eisteddfod y mwd' ond mae'r Athro Morgan yn pwysleisio nad yw hynny'n deg, a bod rhaid "mynd i chwilio am y mwd" wrth i'r brifwyl ddod at ei therfyn.

'Cwnnan'

Roedd y safle meddai, y gorau o beth gafodd ei gynnig wrth drafod gyda'r cyngor sir.

Dywedodd, "Pan wnaeth Elfed Roberts [Prif Weithredwr yr Eisteddfod] a minnau drafod ble yr oeddem am gynnal yr Eisteddfod y peth cyntaf wnaethom ni oedd mynd at Gyngor Sir Fôn a gofyn am brosbectws manwl o'r tiroedd ar yr ynys, ar tir yma ddaeth ar y brig," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn "ymwybodol fod 'na ychydig o gwnnan wedi bod ond mae rhai pobl wedi cael eu geni i gwnnan," meddai.

Ashok Ahir a Derec Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Ar y Maes ddydd Sadwrn, roedd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn trosglwyddo beibl y diweddar Parchedig Wayne Roberts i ddwylo Cadeirydd y Pwyllgor gwaith ar gyfer Eisteddfod Caerdydd 2018, Ashok Ahir

Wrth edrych yn ôl ar brif seremonïau'r wythnos roedd teilyngdod ym mhob un ar wahân i Wobr Goffa Daniel Owen.

"Mae'n braf i weld teilyngdod yn y prif seremonïau ac mae hynny'n dangos bod cymaint o safon. Dwi'n credu bod y rhestr testunau eleni wedi denu nifer o gyfansoddwyr," meddai.

Ar ddechrau'r wythnos roedd yr Athro Morgan yn canmol y cyngerdd agoriadol 'A Oes Heddwch' gan ei ddisgrifio fel un o'r "cyngherddau gorau yn hanes y brifwyl" a'i obaith y buasai'r safon yn "parhau drwy'r wythnos."

'Cyngherddau poblogaidd'

Yn sicr meddai "mi oedd y safon y cystadlu yn rhyfeddol o uchel ym mhob adran, a'r canu wedi bod yn ardderchog.

"Mae'r cynulleidfaoedd wedi bod yn niferus ac mae hynny yn dangos bod rhestr testunau wedi denu cystadleuwyr ac mae'r cyngherddau wedi bod yn boblogaidd."

Er mor llwyddiannus mae'r wythnos wedi bod yn ôl yr Athro Morgan, mi fase wedi newid un peth os byddai modd gwneud hynny.

"Os baswn i'n gallu newid un peth dros yr wythnos fe faswn i'n goson ymbarél fawr dros yr ynys y penwythnos diwethaf, ond fel arall rydym wedi cael llond cae o eisteddfodwyr brwdfrydig balch a safonau artistig ardderchog," meddai.