Trefnwyr yn ymddiheuro am oedi parcio Eisteddfod Môn
- Cyhoeddwyd
Teleri Glyn Jones fu'n holi pobl wrth iddyn nhw gyrraedd y Maes ddydd Llun
Mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi ymddiheuro am oedi yn dilyn penderfyniad i symud y maes parcio oherwydd tywydd gwael.
Yn sgil y glaw trwm ddydd Sul, mae'r trefnwyr wedi gofyn i ymwelwyr adael eu ceir ar faes Sioe Môn a Stad Ddiwydiannol Mona a chymryd bws gwennol i'r maes.
Mae un ymwelydd wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "ofnadwy", tra fod person arall wedi galw ar y trefnwyr i gynnig gostyngiad yn y pris mynediad wrth ddod mewn.
Yn ôl yr Eisteddfod, bydd y drefn newydd ar waith "am gyfnod ddydd Llun" er mwyn "arbed y tir" o gwmpas y safle parcio presennol.
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, wedi gofyn i bobl "bwyllo a bod yn amyneddgar" ac i bobl "beidio â phanicio".
Mae'r meysydd parcio newydd wedi'u lleoli oddi ar gyffordd chwech yr A55, ychydig i'r de-ddwyrain o faes yr Eisteddfod.

Fe gafodd gohebwyr y BBC ar y maes air gyda rhai o'r bobl gafodd eu dal yn yr oedi.
Dywedodd un: "Ofnadwy, 'da ni yma ers 10 a rwan da ni'n cyrraedd, faint o gloch yw hi? Mae wedi hanner dydd. Ond 'da ni yma dyna'r peth gorau."
Dywedodd person arall: "Mae'r Steddfod wedi cael dwy flynedd i baratoi felly, chi'n gwbod fe ddylen nhw fod wedi trefnu pethau'n well, neu wedi cynnig gostyngiad wrth ddod mewn, hefo tri o blant bach, dio ddim wedi bod yn ddelfrydol na."
Dywedodd Eisteddfodwr arall a fu'n ciwio am ryw awr ym Mona, ei bod wedi "aros am y bysus ond nai o, mae'n hawdd cwyno yn dydi, trefnu'r peth yn hollol wahanol chwarae teg, maen nhw wedi trefnu'r peth munud olaf."

Dywedodd yr Eisteddfod mai mesur dros dro ydy symud y maes parcio, fel bod y safle parcio ger y maes mewn cyflwr gwell ar gyfer canol a diwedd yr wythnos.
Yn ymateb i'r adroddiadau o oedi, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts ei fod eisiau i bobl fynd i Fona, a does dim cynlluniau i yrru nhw 'nôl i'r maes arferol ar hyn o bryd.
"Mae 16 o fysus ar hyn o bryd yn cludo pobl ac mae'r bysus yn cario cymaint o bobl ag y medran nhw," meddai.
"Mae rhai wedi gofyn pam na fedrwch chi gal mwy o fysus, ond mi fyddai cael mwy o fysus o bosib yn arafu pethau yn hytrach na'i gyflymu."

Ychwanegodd: "Y syniad ydy ein bod yn rhoi llonydd i'r tir yma [ger y maes] yn y gobaith y bydd yn rhoi cyfle iddo ddod at ei hun.
"Mae pobl yn cwyno fod mwd ar y maes - wrth gwrs fod 'na fwd ar y maes, dwi ddim yn credu y byddai unrhyw faes yn unrhyw le wedi copio efo be gafon ni neithiwr.
"Mae'n rhaid i ni gyd fod yn amyneddgar, mae'n rhaid i ni gyd bwyllo, mae'n rhaid i ni gyd beidio â phanicio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2017