Trywanu: Anafu dau yn Ninbych
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi arestio dyn ar ôl i ddau berson gael eu trywanu yn Ninbych.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger y Stryd Fawr yn Ninbych am 04:00 fore Sadwrn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Alun Oldfield: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r gymuned leol am eu help. Roedd heddweision yno o fewn munudau ac fe arestiwyd dyn yn fuan wedyn.
"Mae'r cyhoedd yn cynorthwyo ni gyda'r ymchwiliad ac yn rhannu gybodaeth gyda ni."
Does dim rhagor o wybodaeth hyd yma am gyflwr y ddau a anafwyd.