Rhybudd am beryglon cronfeydd dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae cyfeillion bachgen a fu farw mewn cronfa ddŵr ym Mannau Brycheiniog wedi rhybuddio pobl am beryglon nofio mewn cronfa ddŵr.
Roedd Rueben Morgan yn 15 oed pan ddigwyddodd y ddamwain yng nghronfa ddŵr Pontsticill ger Merthyr Tudful.
Mae rhai o'i gyfeillion wedi cyfrannu at ffilm Dŵr Cymru er mwyn atgoffa pobl o'r peryglon.
Yn ôl Dŵr Cymru maen nhw wedi cofnodi tua 300 achos o bobl yn nofio mewn cronfeydd dŵr eleni.
Dywedodd y cwmni fod eu cronfeydd yn anaddas ar gyfer nofio gan fod y dŵr yn oer, ac mae peryglon annisgwyl gan gynnwys offer mecanyddol o dan y dŵr.
Dywedodd Pennaeth Dwr Cymru Peter Perry: "Mae yna beryglon wedi cuddio o dan y dŵr. "
"Rydym yn gwybod bod pobl yn cael eu temptio i nofio yn ystod tywydd poeth - ond mae'n rhaid i mi bwysleisio bod pobl yn peryglu eu bywydau eu hunain yn ogystal â phobl eraill. "
Roedd Rueben yn gwersylla wrth ymyl y llyn ar ôl gorffen ei arholiadau TGAU pan aeth i drafferthion yn y dŵr.
Dywedodd un o'i ffrindiau Kyle Thomas: "Doeddwn i ddim yn sylweddoli beth oedd y peryglon ar y pryd."