Cyhuddo dyn yn dilyn ymosodiad Dinbych
- Cyhoeddwyd

Arestiwyd dyn yn dilyn digwyddiad tua 04:00 dydd Sadwrn
Bydd dyn yn ymddangos ger bron ynadon Llandudno dydd Llun i wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio menyw yn Ninbych.
Cafodd y dyn ei gyhuddo hefyd o anafu dyn gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae'r heddlu wedi diolch i'r cyhoedd am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad, ac maen nhw yn parhau i ofyn am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.