Fferm wynt coedwig Alwen ger Rhuthun gam yn nes
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni wedi cael ei benodi i arolygu tir yng Nghoedwig Alwen, ar y ffin rhwng Conwy a Sir Ddinbych, cyn gwneud cais cynllunio i ddatblygu fferm wynt ar y safle.
Yn dilyn proses cystadleuol cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai cwmni Innogy Renewables UK Ltd sydd wedi ennill yr hawl i arolygu y tir.
Dywedodd llefarydd ar ran CNC bod saith cwmni wedi ymgeisio am y brydles ond bod cwmni Innogy yn rhagori am ei fod yn cynnwys elfen gymunedol gref.
Maen nhw'n gweithio ar y cyd gydag Ynni Cymunedol Cymru ac mae cael y gymuned yn rhannol berchen ar y prosiect yn rhan o gais Innogy.
Bydd Prosiect Alwen wedi ei leoli ar dir a roddir ar brydles i Lywodraeth Cymru gan Dŵr Cymru a chaiff ei reoli gan CNC ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: "Rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan oleiaf 80% erbyn 2050.
"Mae datblygiadau ynni adnewyddadwy, fel Prosiect Alwen, yn allweddol er mwyn creu economi gwyrdd ac yn ein helpu ni i gyrraedd ein gôl ar gyfer ynni.
"Rwy'n falch fod gan y cais llwyddiannus fantais gymunedol gref fydd yn galluogi pobl leol i gefnogi'r cynllun. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod arian a gynhyrchir gan y cynllun yn aros yn y gymuned leol."