Mynach o Fôn: 'Dim arian na chyfrif banc ond mae yna foddhad'

y Tad Gildas Parry
Disgrifiad o’r llun,

"Mae atgofion melys o'm mhlentyndod yn dod nôl i fi bob tro dwi'n gweddïo," medd y Tad Gildas Parry

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Tad Gildas Parry, sy'n wreiddiol o Lanfaethlu ym Môn, yn treulio ei fywyd mewn mynachdy yn ardal Peckham yn Llundain.

Does ganddo ddim arian na chyfrif banc a dyw e ddim wedi gweld ei rieni ers tair blynedd.

Tan yn ddiweddar roedd yn gaplan yn Ysbyty St Thomas ynghanol Llundain - yn cael ei alw sawl gwaith yr wythnos wrth i gleifion ddod i derfyn eu hoes.

Bellach, mae'n teithio i Rufain yn gyson wedi iddo gael ei benodi yn hyfforddwr seicolegol yng Ngholeg Catholig Beda.

'Wastad yn meddwl' am ei blentyndod ym Môn

Wrth fyw ei fywyd mynachaidd ym Mynachdy Ein Harglwyddes y Gofidiau yn ne ddwyrain Llundain dywed y Tad Gildas bod ei ddyddiau cynnar braf yn Sir Fôn yn agos iawn i'w galon er iddo ddewis cefnu ar y bywyd hwnnw.

"Dwi wastad yn meddwl nôl i Ynys Môn ac mae atgofion melys o'm mhlentyndod yn dod nôl bob tro dwi'n gweddïo," meddai.

"Dwi'n cofio am ardal lle roedd pawb yn adnabod ei gilydd, cofio am fy ffrindiau ac am y dyddiau lle ro'n i'n rhedeg o gwmpas ffermydd yn dal llygod mawr mewn cytiau!".

eglwys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Tad Gildas a'i gyd-fynachod yn gweddïo sawl gwaith bob dydd ar amserau penodol

Doedd dim disgwyl i Dylan Parry, ei enw blaenorol, ddilyn gyrfa ym myd crefydd - roedd ei daid wedi cefnu ar y capel wedi iddo golli ei wraig, sawl plentyn ac un o'i wyrion a doedd ei dad ddim wedi'i fedyddio.

"Pan yn 15 oed des i'r casgliad fy mod eisiau cael fy medyddio, 'nes i ddarllen yn y capel a meddwl y byddwn i'n hoffi bod yn bregethwr," esboniodd.

"Yna es am daith o amgylch Eglwys Sant Beuno yn Aberffraw gydag athro yn yr ysgol ac wedi i mi glywed bod yr eglwys wedi bod yn Eglwys Gatholig am fwy o amser nag yn Eglwys Brotestannaidd fe benderfynais droi at y ffydd Gatholig."

Ysgrifennu at y Pab

"Roedd penderfynu bod yn Gatholig mor ifanc yn dipyn o gam a finnau'n dal yn ddisgybl yn yr ysgol.

"O'n i'n gwybod na fyddai Dad na Mam yn hapus a dyma fi'n ysgrifennu at y Pab Ioan Pawl II ac ymhen mis cael ateb o Rufain," ychwanegodd y Tad Gildas.

"A dyna ddechrau ar fy siwrne - mynd i'r Eglwys Babyddol yng Nghaergybi a dod o dan ddylanwad y chwaer Miranda Richards a ddaeth yn fam fedydd i fi."

Eglwys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mynachdy ynghlwm wrth yr Eglwys yn Peckham

Ond roedd yna flynyddoedd o ddianc wedi'r cyfnod cynnar.

"Ar ôl cael gradd mewn diwinyddiaeth 'nes i ddianc a mynd i weithio am 20 mlynedd - dianc oddi wrth be o'n i'n feddwl oedd galwedigaeth.

"'Nes i ddiweddu yn gweithio yn y cyfryngau yn Llundain a chael bywyd braf iawn yn Pimlico ar lan yr afon ond jyst cyn i fi droi yn 40 daeth yr alwad eto a dyma fi'n penderfynu bod yn rhaid i fi roi ryw fath o siawns i hwn rŵan.

"A dyma ymuno ag Urdd Sant Norbert - urdd oedd â mynachdy yn Nhalyllychau ar un adeg.

"30 mlynedd ers i fi gael y syniad gwreiddiol fe ges i'n urddo yn offeiriad."

Yn y mynachdy yn Peckham mae gan y Tad Gildas a'i gyd-fynachod batrwm pendant i'r diwrnod.

Mae ganddo ystafell wely ei hun a swyddfa ond mae'n rhaid cyd-fwyta ac os am fynd allan mae'n rhaid gofyn i'r Abad am ganiatâd.

"Mae'n rhaid byw fel teulu er mwyn dod i 'nabod ein gwendidau a'n cryfderau," meddai.

"Dyw hi ddim wastad yn hawdd byw mewn cymuned fel oedolyn. Mae'n rhaid gofyn caniatâd i fynd allan i 'neud petha' - petha' ma' pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol.

"'Da ni'n byw heb arian a heb gyfrif banc sydd yn anodd ynghanol Llundain yn y byd sydd ohoni.

"Dwi'n byw bywyd sengl ond eto mewn cymuned - ond mae 'na foddhad. 'Da ni'n codi bob dydd yr un amser - canu'r foreol weddi, canu'r offeren, canu'r gosber, y weddi canol dydd a'r cwmplin ar ddiwedd dydd.

"Mae'r strwythur yn bwysig. Dyma fy nheulu mabwysiedig - fe ddywedodd yr Abad wrth Dad a Mam 'da chi ddim yn colli mab, 'da chi'n derbyn mynachdy'.

"Mae'n fywyd caeth ond ddim mor gaeth â be mae pobl yn ei feddwl."

eglwys
Disgrifiad o’r llun,

Y tu mewn i Eglwys Ein Harglwyddes y Gofidiau yn Peckam, Llundain

Ychwanegodd ei fod yn mwynhau byw yn Peckham yn fawr.

"Mae'n gymdeithas amlddiwylliannol - yn ddiweddar bues mewn parti dathlu annibyniaeth Nigeria ac wrth eu llongyfarch ces gyfle i ddweud mai annibyniaeth rwy' i hefyd yn ei ddisgwyl fel Cymro."

Wrth sôn am ei swydd newydd yn hyfforddi a chynnig cymorth seicolegol i offeiriadon yn Rhufain dywedodd y Tad Gildas fod y gwaith yn dipyn o dasg gan fod "disgwyl i offeiriadon fyw bywyd hapus a llawn fel dynion sengl".

Ar hyn o bryd mae'r Tad Gildas yn cwblhau gradd Meistr mewn seicoleg wedi iddo gwblhau gradd Baglor yn y maes dair blynedd yn ôl.

"Rhaid ffoi i fod yn fynach am y rhesymau cywir - mae'n gyfle gwych i ddod i 'nabod yr hunan a gorffwyso yng nghariad Duw ac ydw, mi ydw i wrth fy modd," ychwanegodd.

Yr wythnos hon y Tad Gildas sy'n cyflwyno'r oedfa ar Radio Cymru - i'w chlywed am 12:00 ddydd Sul 14 Medi ac yna ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.