Anrhydeddu'r rhai sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i'r Ysgol Sul

Mae Neli Jones a Jên Ebenezer ymhlith y rhai sy'n derbyn Medal Gee eleni
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfnod lle mae llai o Ysgolion Sul dywed Aled Davies, Cyfarwyddwr Cyngor Ysgolion Sul Cymru, ei bod yn fraint arbennig ddydd Sul cyflwyno Medal Gee i bedair menyw o Bontrhydfendigaid - pedair sydd wedi bod yn hynod ffyddlon i'r Ysgol Sul ar hyd y blynyddoedd.
Mae'r pedair ymhlith naw a fydd yn derbyn y fedal eleni - medal sy'n cael ei rhoi i bobl dros 75 oed sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i waith yr Ysgol Sul.
Un o'r rhai sy'n cael ei hanrhydeddu yw Neli Jones, sydd yn parhau i fod yn athrawes Ysgol Sul yng nghapel Rhydfendigaid.
Iddi hi mae cymdeithas yr Ysgol Sul yn holl bwysig ac mae ei hatgofion ar hyd y blynyddoedd yn fyw o hyd.
"Y boddhad mwya' rwy' wedi ei gael yw bod gyda'r plant - fi wedi gwneud cymaint o ffrindiau ac maen nhw'n ffrindiau oes - mae'r plant o'dd yn fy nosbarth Ysgol Sul i yn y dyddiau cynnar wedi ymddeol erbyn hyn," meddai wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg.
"Fi'n cofio fel ddoe rhoi emyn ma's am y tro cyntaf - Deuaf Atat Iesu o'dd yr emyn. O'n i'n crynu i gyd yn y sêt fawr ac anghofiais i roi rhif yr emyn a ges i row gan Mam."

Mae pedair o'r rhai sy'n cael Medal Gee eleni wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i'r Ysgol Sul yng nghapel Rhydfendigaid
Mae ei chymdoges Jên Ebenezer hefyd yn parhau i fod yn athrawes Ysgol Sul ym Mhontrhydfendigaid, a chyn dychwelyd i'w phentref genedigol - roedd hi'n athrawes yn Ysgol Sul, Capel y Morfa yn Aberystwyth.
Ar hyd ei hoes, fel i Neli, mae'r Ysgol Sul wedi bod yn bwysig iddi.
Aelodau o gapel y Bedyddwyr ym Mhontrhydfendigaid oedd teulu Jên ond gan nad oedd Ysgol Sul yn y capel hwnnw pan oedd hi'n blentyn cafodd hi a'i chwaer ganiatâd i fynd at y Methodistiaid.
"Wel o'dd rhaid cael mynd i'r Ysgol Sul - o'dd fy ffrindiau yn yr ysgol yn siarad am yr Ysgol Sul o hyd.
"O'n i wrth fy modd yn cael rhoi emyn ma's - o'dd dim nyrfs yn perthyn i fi.
"Fi wastad wedi joio mynd i'r Ysgol Sul - er cofiwch fel athrawes fi mor ddrygionus â'r plant!
"Cofio'n iawn pan o'n i'n ifanc am y Parchedig William Davies yn dod â straeon y Beibl yn fyw i ni ac wrth gwrs am y trips Ysgol Sul i'r Rhyl, Porthcawl ac Ynys y Barri a chael hanner coron i wario am bod ni'n blant da yn mynd i'r Ysgol Sul!"
"Finne hefyd yn cofio am y dyddiau da hynny ac am Dic Rees y siop yn dysgu ni ganu yn yr Ysgol Sul ar gyfer y Gymanfa Ganu," meddai Neli.
"O'n ni'n arbennig - roedd plant Bont yn well na phlant Tregaron!
"Mae lot o straeon ar hyd y blynydde. Fi'n cofio gofyn i'r plant ddod â llun o anifail fyddai'n debygol o fod yn arch Noa - a doth un plentyn â pysgodyn aur byw mewn bowlen - ni wedi cael sbort," ychwanegodd Jên.
Ond yr hyn sy'n bwysig, meddai'r ddwy, yw bod yr Ysgol Sul yn parhau ac mae'n gyfle i ddod i adnabod y plant a'u teuluoedd wrth iddyn symud i fyw i'r ardal.
'Diolch am bob fflach o oleuni'
Ar ran Cyngor Ysgolion Sul Cymru dywedodd y cyfarwyddwr Aled Davies: "Union 37 mlynedd yn ôl roeddwn yn cychwyn fel gweinidog ifanc ym Mhontrhydfendigaid ac ar y pryd roedd dwy Ysgol Sul fyrlymus yno. Erbyn hyn un Ysgol Sul sydd yn y pentref, ond mae'n braf gweld y cydweithio rhwng y capeli.
"Braint arbennig yw cael dychwelyd yno union 37 mlynedd yn ddiweddarach i gyflwyno Medalau Gee i'r rhai dwi'n cofio oedd yno pan o'n i'n cychwyn.
"Y newyddion da yw bod dwy ohonynt yn dal i fod yn weithgar yn yr Ysgol Sul ac wedi gwneud cyfraniad neilltuol i'r pentref ar fro.
"O gofio am y dirywiad a welir o fewn ein heglwysi ac Ysgolion Sul, diolch am bob fflach o oleuni a welir hwnt ac yma.
"Dyma bedair sy'n gwbl haeddiannol o dderbyn Medalau Gee - nid yn unig am eu ffyddlondeb ond am eu menter a'u gweledigaeth yn trefnu oedfaon yn ogystal ar gyfer yr ifanc.
"Llongyfarchiadau gwresog iddyn nhw a'r gweddill sy'n derbyn eleni."
Ers 2018 y Cyngor Ysgolion Sul sy'n dosbarthu Medalau Gee a'r rhai sy'n derbyn medal eleni yw:
David Elfed Davies, Capel Hermon, Cynwyl Elfed
Jên Ebenezer, Capel Rhydfendigaid, Pontrhydfendigaid
Ann Evans, Eglwys Annibynnol Blaen y Coed
David James, Capel Salem Treganna Caerdydd
Gillian James, Capel Salem Treganna Caerdydd
Neli Jones, Capel Rhydfendigaid, Pontrhydfendigaid
Jane Richards, Capel Glasinfryn, Llanbedrgoch
Ann Williams, Capel Rhydfendigaid, Pontrhydfendigaid
Jean Williams, Capel Rhydfendigaid, Pontrhydfendigaid
Mae Neli Jones a Jên Ebenezer yn rhannu eu profiadau yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023