Gostyngiad yn y nifer sy'n sefyll arholiadau Safon Uwch
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yr arholiadau Safon Uwch sydd wedi eu sefyll yn 2017 ar ei isaf ers 2005.
Fe wnaeth 33,294 sefyll arholiad safon uwch yng Nghymru - cwymp o 6.3% o'i gymharu â'r llynedd a'r ffigwr isaf ers dros ddegawd.
Mae'r gostyngiad mewn niferoedd yn cynnwys 16% yn llai o arholiadau ar gyfer Saesneg iaith a llenyddiaeth.
Mae'r canlyniadau eleni yn dangos bod mwy o fyfyrwyr yng Nghymru wedi cael gradd A* nag erioed o'r blaen.
Er hynny, dyma'r ail bwnc mwyaf poblogaidd yn dilyn Mathemateg.
Mae Hanes (-15%), Technoleg Gwybodaeth (-22%), a Gwyddoniaeth (-18%) hefyd wedi gostwng.
Ond mae nifer yr arholiadau Gwleidyddiaeth (+29%), Astudiaethau Busnes (+23%), a Sbaeneg (+13%) wedi cynyddu.
Ymchwilio
Mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu ymchwilio i achos y cwymp yn nifer yr arholiadau Safon Uwch, gan edrych i weld os yw myfyrwyr yn gadael y byd addysg neu'n dilyn cyrsiau galwedigaethol.
Dyma'r canlyniadau cyntaf ers i 14 o gyrsiau Safon Uwch gael eu newid a'u hadnewyddu 'nôl yn 2015.
Yn wahanol i Loegr, mae lefelau Uwch Gyfrannol (UG), sy'n cael eu sefyll flwyddyn yn gynharach, wedi parhau yng Nghymru ac yn dal i gyfrannu 40% tuag at y canlyniad Safon Uwch.
Ond o hyn ymlaen, dim ond unwaith y bydd myfyrwyr yng Nghymru yn gallu ailsefyll unedau UG.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: "Rydym yn hyderus bod safonau'n cael eu cynnal.
"Mae'r ffordd y gosodir ffiniau gradd ar gyfer Safon Uwch newydd yr haf hwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu trin yn deg.
"Nid ydynt wedi bod yn gweithredu dan anfantais trwy fod y cyntaf i sefyll y cymwysterau hyn."
Mae gostyngiad o 5% hefyd wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sydd wedi gwneud cais i fynd i brifysgolion yn y DU - 22,530 o'i gymharu â 23,740 yn yr un cyfnod y llynedd, a hynny'n dilyn pedwar cynnydd yn olynol.
Mae'r niferoedd sydd wedi gwneud cais i brifysgolion Cymru hefyd wedi gostwng.
'Effaith Brexit'
Dywedodd Prifysgolion Cymru, er bod ychydig o welliant wedi bod mewn ceisiadau ers mis Ionawr, ei bod yn aneglur sut y byddai'r patrwm yn newid wrth i'r broses glirio datblygu.
"Nid yw gostyngiad mewn ceisiadau o reidrwydd yn golygu gostyngiad yn y nifer sy'n cofrestru ar ddechrau'r tymor," meddai llefarydd.
"Fodd bynnag, mae'r ffigyrau ar draws y DU yn cyfeirio at nifer o heriau posib sy'n dod i'r amlwg, megis newid poblogaeth sylfaenol ac effaith Brexit."
Y llynedd, 22.7% oedd y ganran oedd wedi derbyn graddau A* neu A, y ganran isaf ers 2010 pan gafodd y radd A* ei gyflwyno.
Roedd yr un ganran wedi pasio a'r flwyddyn gynt - 97.3% - er bod y perfformiad yn parhau'n ychydig yn is nag yn Lloegr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2017