'Freddie Mercury' Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae hanes y Marcwis o Fôn a gollodd ei goes ym mrwydr Waterloo yn un o straeon enwog Ynys Môn ond mae hanes lliwgar ei etifedd, y pumed Marcwis, wedi ei gadw'n dawel am dros ganrif.
Roedd Henry Cyril Paget yn etifedd Plas Newydd ger Llanfairpwll, un o deuluoedd cyfoethoca'r byd ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Ond cafodd ei ddileu o'r llyfrau hanes wedi iddo wario holl gyfoeth y teulu ar gynnal dramâu drud a chroeswisgo mewn gwisgoedd crand wedi eu gorchuddio mewn diemwntau.
Erbyn iddo farw yn Monte Carlo yn 1905 yn 29 oed roedd Henry yn fethdalwr.
Ond mae'r actor a'r cyfansoddwr Seiriol Davies wedi dod â'r pumed marcwis nôl i'r llwyfan gyda'i sioe How To Win Against History sy'n teithio Cymru wedi llwyddiant mawr yng Ngŵyl Caeredin.
Fel brodor o Fôn mae'n egluro pam fod y pumed Marcwis wedi cipio ei ddychymyg:
Fel plentyn, ro'n i'n mynd i Blas Newydd yn eitha' aml - mae'n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn,
Mi fedri di weld cerfluniau a lluniau o'r marcwis cyntaf, yr ail, y trydydd a'r pedwerydd yno.
Ond i'r pumed marcwis, Henry, doedd dim ond llond llaw o ffotograffau wedi eu ffotocopïo uwchben y mat wrth y drws - lle ti'n ll'nau dy 'sgidiau.
Mae pethau wedi newid ychydig ers hynny - mae'r ffotograffau wrth ymyl y toiledau rŵan, ond yn dal ddim mewn lle arbennig o anrhydeddus.
O edrych ar y lluniau ohono, mae Henry Cyril Paget yn edrych fel Freddie Mercury wedi rhedeg drwy gangen o Elizabeth Duke yn gwisgo siwt wedi ei gwneud allan o selotêp ac wedi gwisgo'r holl emwaith i gyd ar yr un pryd.
Mi wnaeth o wario ffortiwn cyfan y teulu ar roi dramâu fabulous ymlaen efo fo'i hun ynddyn nhw, mewn drag, yn gwisgo diamwntau.
Ar ôl iddo farw mi wnaeth ei deulu losgi unrhyw olion roedden nhw'n gallu eu ffeindio ohono: pob llythyr, pob dyddiadur, pob dim roeddan nhw'n gallu ei ffeindio oedd yn ei eiriau o a chario 'mlaen fel tase fo erioed wedi bodoli.
Felly wrth weld y lluniau 'ma fel plentyn roeddwn i'n teimlo'r synnwyr rebellious 'ma o anghyfiawnder.
Mae'n stori anhygoel: mewn 29 mlynedd mi wnaeth o bacio lot i fewn gan gynnwys teithio o gwmpas Ewrop yn cyflwyno sioe o'r enw The Famous Electric Butterfly Dance.
Ychydig iawn ydyn ni'n gwybod am y sioe ond allwn ni 'mond dychymygu pa mor fabulous fysa fo.
Yn ein drama ni, rydyn ni'n trio gofyn y cwestiwn - beth mae'n ei olygu i fod yn y mainstream? Beth mae'n olygu i ffitio mewn? A be' sy'n digwydd pan ti jyst ddim yn ffitio, ond ti'n dal isio rhan o'r byd i berthyn iddo?
Does neb yn haeddu cael pob olion ohonyn nhw wedi eu distrywio.
Doedd o ddim wedi cael ei fagu i fod â concept o bres a doedd o ddim yn ymwybodol o'r syniad o costume jewellery felly roedd gan bob dim ddiamwntau go iawn arnyn nhw.
Roedd un ffrog wnaeth o wneud ar gyfer sioe Aladdin yn werth mwy na Phlas Newydd ei hun. Mi wnaeth o ei gadael yn y 'stafell wisgo a 'nath rywun ei dwyn.
Athrylith neu destun sbort?
Scale y peth oedd yn anhygoel - mi wnaeth o wneud taith o'i sioe efo fflyd gyfan o geir a phob un wedi cael ei addasu i edrych fel cerbydau'r Orient Express efo'r tu fewn i gyd yn arddull Baroque a Rococo efo cherubs pren wedi eu cerfio ar y to.
Ac roedd o wedi gwneud i nwy o egsôst ei gar arogli fel rhosod.
Roedd pobl jyst yn meddwl ei fod o'n ecsentric - ac mi roedd o, dwi ddim yn dweud ei fod yn ryw athrylith enfawr o reidrwydd, dydan ni ddim yn gwybod be' oedd yn ei feddwl o - ond doedd neb rili yn ei dderbyn o fel unrhyw beth heblaw rhywbeth i chwerthin arno fo.
Mae un stori amdano mewn music hall yn yr Almaen - roedd o ymlaen ar ôl ci oedd yn perfformio. Daeth y llenni i lawr ac ar ôl drym rôl daeth y llenni fyny eto a dyna lle roedd Henry yn sefyll ar y llwyfan mewn ffrog hir wen efo diamwntau arni a choron. Ddaru o sefyll yno am funudau yn hollol ddistaw ac wedyn ddaru'r llenni ddod lawr eto.
Mi allwch chi feddwl bod hwnna'n gofyn ryw gwestiynau dwfn am natur spectacle neu voyeurism ond mae hefyd yn bosibilrwydd mawr fod Henry jyst isio i bobl weld ei ffrog lyfli - 'da ni jyst ddim yn gwybod.
A dyna beth sydd mor delicious amdano fo achos mae o'n blank canvas. Yn y sioe rydyn ni wedi gwneud addasiad eitha' penodol o'r cymeriad yn seiliedig ar un fersiwn hollol abswrd o'r stori.
Bydd y sioe yn ymweld â phum lle yng Nghymru:
5-6 Hydref - Pontio, Bangor.
31 Hydref-1 Tachwedd - Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth.
4 Tachwedd - Canolfan Gelfyddydau Pontardawe yn Abertawe.
15-18 Tachwedd - Theatr Sherman, Caerdydd.
25 Tachwedd - Galeri, Caernarfon.
Mae manylion llawn y daith ar wefan Seiriol Davies, dolen allanol neu ar ei gyfrif Twitter, dolen allanol.