Safon Uwch: Mwy o fyfyrwyr Cymru nag erioed yn cael A*

  • Cyhoeddwyd
canlyniadauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mwy o fyfyrwyr wedi cael gradd A* yn eu harholiadau Safon Uwch nag erioed o'r blaen, yn ôl y canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi ddydd Iau.

Fe wnaeth 8.3% o'r graddau gyrraedd y safon uchaf, gyda 25% o raddau hefyd yn cael eu dyfarnu'n A neu A*.

Roedd canran y disgyblion wnaeth lwyddo i gael gradd A*-E yn 97.7%, yr uchaf mewn degawd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams fod y canlyniadau yn dangos "cynnydd calonogol".

Mwy yn pasio

Cyn eleni doedd canran y myfyrwyr oedd wedi cael gradd A* yn eu harholiadau Safon Uwch ddim wedi bod yn uwch na 7.3% - llynedd roedd yn 6.6%.

Canran graddau A* ac A
Disgrifiad o’r llun,

Canran graddau A* ac A rhwng 2009 a 2017

Fe wnaeth y canran oedd yn cael A* neu A hefyd gyrraedd y lefel uchaf erioed, gan godi o 22.7% i 25% mewn blwyddyn.

Mae Cymru hefyd wedi cau'r bwlch ar weddill y DU o ran y canran sy'n cael y graddau uchaf, ond maen nhw'n parhau y tu ôl i bob rhanbarth yn Lloegr oni bai am orllewin y canolbarth a dwyrain y canolbarth o ran graddau A* i C.

Ond mae nifer y myfyrwyr wnaeth sefyll arholiadau Safon Uwch eleni wedi gostwng o'i gymharu â llynedd.

Mae nifer y Cymry sydd wedi gwneud cais i fynd i'r brifysgol, a'r nifer sydd wedi gwneud cais i brifysgolion Cymru, hefyd wedi gostwng.

Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Williams fod y canlyniadau yn dangos "cynnydd calonogol".

Mathemateg oedd y pwnc ble cafodd y canran uchaf o ddisgyblion radd A neu A*, gyda 41.9% yn llwyddo i gyrraedd y safon a 63.3% yn llwyddo gyda Mathemateg Bellach.

Ymhlith y pynciau eraill ble wnaeth dros chwarter y myfyrwyr sicrhau'r graddau uchaf oedd Almaeneg, Cemeg, Economeg, Ffiseg, Ffrangeg, Bioleg, Cymraeg Iaith Gyntaf, a Chelf a Dylunio.

Fe wnaeth bechgyn wneud yn well na merched wrth gael graddau A ac A* (25.1% i 24.9%), ond ymysg graddau A* i E fe wnaeth merched barhau i wneud yn well (98.2% i 97%).

Dywedodd y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) fod y gwahaniaethau mawr o ran dewis pynciau yn golygu ei bod hi ond yn bosib cymharu canlyniadau merched a bechgyn o fewn yr un pwnc.

disgyblion bae colwyn
Disgrifiad o’r llun,

Biz Romachney, Billy Leathwood-Hill ac Isla Middleton o Ysgol Eirias, Bae Colwyn yn dathlu eu canlyniadau

Ar Lefel AS, gwelwyd cynnydd yn nifer y disgyblion lwyddodd i gael gradd A, gyda'r canran yn codi o 18% y llynedd i 19.1% eleni.

Roedd y canran gafodd radd A-E hefyd wedi codi o 88.3% i 88.9%.

Wrth longyfarch myfyrywr ar eu canlyniadau dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams eu bod yn dangos "cynnydd calonogol yn y nifer sy'n ennill y graddau uchaf, a chanlyniadau gwell ar draws Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Ffiseg".

Ychwanegodd ei bod am "adeiladu" ar y canlyniadau, a bod y llywodraeth "wedi ymrwymo i sicrhau bod ein system addysg yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ddisgyblion yn y byd modern".

daniel davies
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Davies o Ysgol Penweddig yn casglu ei ganlyniadau - mae'n gobeithio dilyn prentisiaeth mewn Peirianneg

Eleni oedd y flwyddyn gyntaf ers newidiadau i drefn rhai o'r pynciau Safon Uwch, a bellach dim ond unwaith y bydd myfyrwyr yng Nghymru yn gallu ailsefyll unedau UG.

Ond mae prif weithredwr Cymwysterau Cymru yn dweud ei fod yn hyderus fod "safonau'n cael eu diogelu".

"Mae'r ffordd y mae ffiniau gradd wedi'u gosod ar gyfer arholiadau Safon Uwch newydd yr haf hwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu trin yn deg," meddai Philip Blaker.

"Ni roddwyd mantais nac anfantais iddynt oherwydd y ffaith mai nhw oedd y myfyrwyr cyntaf i sefyll y cymwysterau hyn."