Cyngor Sir Penfro eisiau codi treth cyngor tai gwag
- Cyhoeddwyd
Gallai perchnogion tai gwag yn Sir Benfro weld eu treth cyngor yn dyblu dan gynlluniau newydd.
Yn ôl Cyngor Sir Penfro mae tua 1,100 o anheddau domestig yn yr ardal sydd wedi bod yn wag ers cyfnod hir.
Ar hyn o bryd maen nhw'n cael gostyngiad blynyddol o 50% ar eu treth cyngor, ond mae'r awdurdod lleol yn edrych i gael gwared ar hynny.
Maen nhw'n dweud fod tai sy'n wag am gyfnod hir yn cael effaith ar argaeledd, a'i fod hefyd yn niweidiol i ba mor ddeniadol a chynaliadwy y mae cymunedau.
Tai ar y farchnad
Dywedodd y cyngor fod tua 10% o'r dreth gan berchnogion anheddau sydd wedi bod yn wag ers sbel yn parhau i fod yn ddyledus.
Dyw rhai tai ddim yn cael eu cyfrif gan y diffiniad, er enghraifft os ydyn nhw'n cael eu hystyried yn adeilad masnachol neu fod y perchennog yn yr ysbyty neu'n derbyn gofal hir dymor.
Mae'r cyngor yn gobeithio cyflwyno premiwm ar y tai sy'n colli'r gostyngiad o 50% - gan olygu y gallan nhw benderfynu pa lefel o dreth, hyd at 100%, fydd yn rhaid i bob un dalu.
Y gobaith yw annog tai sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir i gael eu rhoi ar y farchnad er mwyn helpu gyda'r ddarpariaeth dai lleol.
Bydd Cyngor Sir Penfro yn ymgynghori ar y cynllun nes 18 Medi, cyn gwneud penderfyniad ar 19 Hydref.