Cysylltiad Cymreig Big Ben

  • Cyhoeddwyd
Tŵr Elisabeth sy'n dal y cloc, sydd â chloch o'r enw Big Ben
Disgrifiad o’r llun,

Tŵr Elisabeth sy'n dal Big Ben

Mae'r Prif Weinidog Theresa May ymysg y rhai sydd wedi datgan eu siom o glywed y bydd Big Ben yn fud am rhyw bedair blynedd oherwydd gwaith i atgyweirio'r tŵr yn Llundain.

Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar yr enw. Y sôn yw bod y gloch wedi mabwysiadu enw gŵr o'r enw Syr Benjamin Hall.

Roedd Benjamin Hall yn beiriannwr ac yn aelod seneddol Mynwy rhwng 1832 ac 1837.

Ond yng Nghymru, mae'n cael ei adnabod yn bennaf fel gŵr Gwenynen Gwent, neu Arglwyddes Llanofer wnaeth gymaint i hybu Cymreictod a thraddodiadau gwerin yn y cyfnod.

Ffynhonnell y llun, Oriel Portreadau Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Syr Benjamin Hall: Big Ben

Er nad oedd gwreiddiau'r ddau yn hynod o Gymreig, roedd gan y ddau ddiddordeb yn niwylliant ac arferion Cymru ac fe weithiodd y ddau'n ddiflino dros eu hybu.

Yn achos Gwenynen Gwent, roedd hyn yn cymryd ffurf hybu traddodiadau gwerin ond roedd Benjamin Hall yn gweithio yn y Senedd yn San Steffan i ddatblygu hawliau'r Cymry a gweithwyr yn gyffredinol.

Roedd yn allweddol i ddatblygu hawliau pobl Cymru i gael gwasanaethau crefyddol yn y Gymraeg ac yn dadlau gyda'r esgobion ar gyflwr yr eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.

Roedd hefyd yn allweddol yn yr ymgyrch dros basio'r Ddeddf er Gwahardd Trwco yn 1831. Daeth y ddeddf â diwedd ar yr arferiad oedd gan gyflogwyr ar y pryd i dalu eu gweithwyr mewn tocynnau oedd ond yn medru cael eu gwario yn siopau'r cwmni.

Ben, boi mawr

Ond beth oedd cysylltiad Benjamin Hall gyda'r gloch enfawr yn nhŵr Elisabeth ym mhalas San Steffan?

Yn 1854 fe gafodd ei wneud yn Brif Gomisiynydd Gweithfeydd ac yn rhinwedd y swydd hon, ef oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o ail adeiladu Palas San Steffan wedi iddo gael ei ddifrodi gan dân yn yr 1830au.

Fel rhan o'r gwaith roedd Hall yn gyfrifol am gomisiynu'r gloch ar gyfer y tŵr gogleddol, a gan fod Benjamin Hall yn foi eithaf mawr, Big Ben oedd yr enw gafodd ei fabwysiadu.

Felly pan glywch y bongs y tro nesaf, cofiwch am Benjamin Hall, traddodiadau gwerin Cymru a hawliau gweithwyr ac addolwyr yr oedd yn gyfrifol am eu sefydlu a'u datblygu.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Plas Llanofer Fawr, o ble ddatblygodd Augusta Hall (Gwenynen Gwent) a'i gŵr ddiddordeb yn y Gymraeg a diwylliant y Cymry