Cymru'n curo Leichtenstein 1-0 mewn gêm bwysig

Nathan Broadhead a Jordan JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi curo Liechtenstein o 1 gôl i 0 mewn gêm allweddol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Fe sgoriodd Jordan James ei gôl ryngwladol gyntaf i sicrhau'r canlyniad oddi cartref gan gadw gobeithion y tîm cenedlaethol o orffen yn y ddwy safle uchaf yn fyw.

Gan fod Gwlad Belg a Kazakhstan wedi gorffen mewn gêm gyfartal ddydd Sadwrn mae dal yn bosibl i Gymru orffen ar frig y grŵp rhagbrofol - ond i wneud hynny mi fyddai'n rhaid i Wlad Belg golli pwyntiau cartref nos Fawrth yn erbyn Liechtenstein.

Felly, os ydy Cymru'n curo Gogledd Macedonia nos Fawrth mi fydden nhw'n saff o orffen yn yr ail safle.

Mae hynny'n hollbwysig gan y byddai'n rhoi llwybr haws iddyn nhw yn y gemau ail-gyfle.

Roedd yn rhaid i Gymru fynd i Liechtenstein heb ddau chwaraewr allweddol oherwydd anafiadau - y capten Ben Davies a'r ymosodwr Kieffer Moore.

Ond, fe lwyddodd tîm Craig Bellamy - oedd ddim wrth ymyl cae gan ei fod wedi cael dau garden melyn yn ystod yr ymgyrch - i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Cymru gafodd yr holl gyfleoedd yn ystod yr hanner cyntaf.

O fewn y tair munud cyntaf fe ddaeth croesiad peryglus gan Neco Williams ond doedd neb yn gallu bachu ar y cyfle - awgrym falle o hyn oedd i ddod.

Fe ddaeth cyfle gwych i Nathan Broadhead ar ôl 20 munud ond fe fethodd â fynd heibio i gôl-geidwad Liechtenstein, Büchel.

Munudau'n ddiweddarach fe ffeindiodd Broadhead gefn y rhwyd - ond fe gafodd y gôl ei gwrthod. Roedd Joe Rodon yn camsefyll.

Fe barhaodd y cyfleoedd i Gymru weddill yr hanner ond er mai nhw oedd yn cynnig popeth yn ymosodol di-sgôr oedd hi ar yr hanner.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn dawelach a Chymru'n ei chael hi'n anodd ail-gydio yn y momentwm ond ni barodd hynny'n rhy hir.

Daeth cyfle enfawr ar ôl 55 o funudau i Dan James wrth iddo daro'r postyn.

Funduau'n ddiweddarach ffeindiodd Neco Williams ei hun ar ddiwedd croesiad hyfryd wrth y postyn pellaf ond rhywsut colli cyfle arall wnaeth Cymru.

Fe ddaeth y gôl diolch i Jordan James ar ôl awr o chwarae. Dan James unwaith eto'n croesi'r bêl ar hyd wyneb y gôl a Jordan James yn aros amdani.

Yn ystod hanner awr olaf y gêm fe ddaeth eilyddion ymlaen ac fe ddechreuodd Liechtenstein roi ychydig o bwysau ar amddiffyn Cymru.

Ond fe lwyddodd dynion Craig Bellamy ddal ymlaen i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Y gred ydy bod tua 3,000 o gefnogwyr Cymru wedi teithio i Liechtenstein ac nawr mae gobeithion Cymru dal yn fyw i gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd.

Gwlad Belg yw'r ffefrynwyr o hyd i ennill y grŵp rhagbrofol ond os ydy Cymru'n curo Gogledd Macedonia mi fyddan nhw'n gorffen yn yr ail safle - fydd yn rhoi llwybr haws iddyn nhw yn y gemau ail-gyfle.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.